Mae gan Arts Care Gofal Celf swydd wag ar gyfer Gweithiwr Cymorth Prosiect.
Cyflog: £15,238 y flwyddyn (24 awr yr wythnos)
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn lleoliadau amrywiol ar draws Sir Gaerfyrddin ac yn ein swyddfeydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin. Bydd gallu teithio i leoliadau prosiect ar draws Sir Gaerfyrddin yn angenrheidiol i cefnogi ymarferwyr celfyddydol proffesiynol i gyflawni ein prosiectau celf, iechyd a lles.
Am ragor o wybodaeth ac i ofyn am becyn cais, cysylltwch â: info@acgc.co.uk
Dyddiad cau: 06/06/2025