Rôl: Actor/Hwylusydd Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Prosiect: Elin y Cerrig – Ceidwad Coll y Calchfaen’
Lleoliad: Ysgolion Conwy (amryw leoliadau ar draws Sir Conwy)
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 28 Awst
Trosolwg:
Mae Puzzle Junction, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy, yn gyffrous iawn i gyflwyno profiad perfformiad trochi ac addysgiadol i ysgolion cynradd ar draws Conwy fel rhan o’r prosiect ysgolion Creaduriaid Cudd y Creuddyn. Rydym yn chwilio am actor/hwylusydd proffesiynol dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) i ymgymryd â’r brif rôl o Elin y Cerrig – Ceidwad Coll y Calchfaen, gan arwain disgyblion drwy daith ddysgu unigryw sy’n cael ei harwain gan gymeriad.
Gofynion Hanfodol:
- Siaradwr Cymraeg a Saesneg rhugl (rhaid gallu perfformio’n hyderus yn y ddwy iaith)
- Profiad profedig o berfformio i blant ysgol gynradd ac o weithio gyda nhw, yn ddelfrydol mewn ysgolion neu leoliadau addysgol eraill
- Profiad o berfformiadau trochi a rhyngweithiol, yn enwedig lle mae dyfeisgarwch a chynulleidfa’n rhan ganolog
- Medru arwain a hyrwyddo dysgu drwy berfformio
- Tystysgrif DBS gyfredol a dilys
- Argaeledd ar gyfer y dyddiadau canlynol:
- Gwneud clyweliad: Wythnos yn dechrau 1 Medi
- Ymarferion: Yn ystod mis Hydref (dyddiadau penodol i’w cadarnhau)
- Perfformiadau: Hanner tymor y Gaeaf (amserlen lawn i’w gadarnhau)
Rôl
Y Rôl – Elin y Cerrig:
• Oedran i’w chwarae: 30–50 oed
• Crynodeb o’r cymeriad: Mae Elin y Cerrig yn warcheidwraig ddoeth a chyfareddol o gynefin calchfaen y Gogarth a’r Creuddyn. Bydd hi’n arwain grwpiau ysgol drwy brofiad addysgiadol ac ymgysylltiol sy’n canolbwyntio ar y rhywogaethau prin o drychfilod sy’n byw yn y tir calchfaen.
• Rôl drochi yw hon sy’n galw am sgiliau dyfeisgar a’r gallu i aros yn gwbl o fewn cymeriad wrth arwain y dysgu.
• Mae’r perfformiad yn eistedd rhwng gweithdy a sioe theatrig, gyda’r nod o addysgu drwy swyno.
Sut i Wneud Cais:
I fynegi diddordeb yn y rôl hon, anfonwch:
- Eich dolen Spotlight, neu
- Gofynnwch i’ch asiant gysylltu’n uniongyrchol ar eich rhan.
Ar ôl y dyddiad cau (28 Awst), byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod os ydych wedi'ch dewis ar gyfer clyweliad yn ystod yr wythnos yn dechrau 1 Medi.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan berfformwyr o bob cefndir ac yn ymrwymedig i gastio cynhwysol.