Teitl y Prosiect: Ysgol Pwerau Planed ar gyfer Plant Anghyffredin

 

Cwmni: EA Productions

 

Cyfnod y Prosiect: Ail Rownd Ymchwil a Datblygu

 

Mae EA Productions, mewn partneriaeth â Pontio a Fran Wen o Fangor, Gogledd Cymru wrth eu bodd i gyhoeddi cyfle cyffrous i actor ymuno ag ail gam ymchwil a datblygu ein prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, " Ysgol Pwerau Planed ar gyfer Plant Anghyffredin” Nod y sioe ymdrochol  hon yw ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ifanc mewn addysg amgylcheddol trwy chwedleua rhyngweithiol a phrofiadau theatr ymdrochol.

 

Lleoliad:

 

Bangor, Gogledd Cymru

 

Cytundeb:

 

Taledig, 10 Diwrnod

 

Rolau:

 

Pennaeth: Oedran Chwarae 30-50 oed

Mae rôl y pennaeth yn cynrychioli ethos yr ysgol ac yn gweithredu fel cwmpawd moesol, pan fo’r cymeriad hwn yn crwydro o’r llwybr syth mae’n amlwg nad yw rhywbeth yn iawn gyda’r ysgol.

 

 

Gefeill 1: Oedran Chwarae 16-18 oed

Mae'r efeilliaid yn rolau canolog sy'n arwain y profiad cyfan.

 

Gefeill 2: Oedran Chwarae 16-18 oed

Mae'r efeilliaid yn rolau canolog sy'n arwain y profiad cyfan.

 

Disgrifiad Rôl:

- Sgiliau Angenrheidiol:

 - Medrusrwydd mewn dawns/symud/theatr gorfforol

 - Gallu canu cryf

 - Profiad o theatr ymdrochol a'i datblygiad

 - Cyfforddus gyda gwaith cydweithredol

- Dwyieithrwydd Saesneg/Cymraeg yn ddymunol

 

 

Amserlen y Brosiect:

- Wythnos Castio yn Dechrau: 6ed Mai gyda thri lleoliad:

• Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

• Oriel Mostyn, Llandudno

• Pontio, Bangor

- Wythnosau Ymchwil a Datblygu (Y&D): Wythnos yn dechrau 3 Mehefin a 10 Mehefin (Rhaid bod ar gael ar gyfer y ddwywythnos)

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Datblygu Sgript: Bydd y sgript yn cael ei datblygu trwy broses ddyfeisiedig, gyda phwyslais ar fewnbwn cydweithrediadol gan yr actorion a ddewiswyd.

- Nod y brosiect yw arwain at gynhyrchiad, wedi'i dargedu ar gyfer dechrau 2025.

 

Sut i wneud cais:

Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb gyflwyno eu dolen Spotlight neu fel arall CV, llun, ac unrhyw ddeunyddiau portffolio perthnasol i eleanor@eaproductions.co.uk erbyn 25/04/2024. Dylech gynnwysllythyr eglurhaol byr yn amlinellu eich profiad perthnasol a pham fod gennych ddiddordeb yn y brosiect hon ynghyd â'ch lleoliad castio dewisol.

 

Mae EA Productions wedi ymrwymo i amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn annog actorion o bob cefndir i ymgeisio.

 

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â ni ar y daith gyffrous hon i greu profiadau theatr arloesol i blant!

Dyddiad cau: 25/04/2024