Mae Theatr Iolo ar drywydd pum perfformiwr at daith cyn bo hir, sef The Welsh Dragon, sgwennwyd gan Kyle Lima a dan gyfarwyddyd Ewa Dina. Dyluniwyd gan Kyle Legall, Dylunio’r Goleuo gan Katy Morison a Chyfansoddwyd gan Eadyth Crawford.
I blant 7-13 oed mae The Welsh Dragon, sy’n cynnwys cerddoriaeth, rap a thro hanesyddol yn ei chynffon. Mae’r ddrama newydd feiddgar yma i blant yn chwilio tras groenddu Cymru, gyda’n herio i amau’r straeon drosglwyddwyd o’r naill genhedlaeth i’r llall.
Rydym yn gobeithio clywed gan gyn-berfformwyr Theatr Iolo yn ogystal â pherfformwyr newydd na fuom yn cydweithio â nhw o’r blaen. Fodd bynnag, mae gofyn i’r holl berfformwyr fod â’u cartref yng nghyffiniau De-ddwyrain Cymru.
Mynegwch eich diddordeb drwy anfon CV a llun i admin@theatriolo.com a/neu fideo byr dim mwy na thri munud yn eich cyflwyno’ch hun a pham mae gennych ddiddordeb yn y prosiect. Dyddiad cau ceisiadau 10am ddydd Llun 8fed Gorffennaf.
Dyddiadau Allweddol:
- Dyddiad Clyweliad: yr wythnos yn dechrau 15 Gorffennaf 2024.
- Bydd yr ymarferion yn cychwyn ar 9 Medi, tan 29 Medi 2024
- Bydd yr ymarferion technegol o 30 Medi tan 4 Hydref 2024
- Bydd yr Ymarfer Gwisg ddydd Sadwrn 5 Hydref 2024
- Bydd y sioeau rhagolwg ddydd Llun 7 a dydd Mawrth 8 Hydref 2024.
- Cynhelir Noson y Wasg nos Fercher 9 Hydref 2024.
- Bydd y daith o gwmpas Cymru’n cychwyn ar 7 Hydref, tan 2 Tachwedd 2024.
TÂL:
£600 yr wythnos. (Mae tâl pob rôl yn uwch na lleiafswm Equity ac yn cynnwys y lwfansiau priodol.)
Dadansoddiad o’r cast (yn ôl eu henwau fel maen nhw’n ymddangos yn y sgript):
- Cheddar Man (Gwrywaidd)*
Actor ac iddynt oed actio yn y dauddegau ac sy’n Ddu neu â chefndir ethnig cymysg du. Mae gofyn iddynt fod yn berfformiwr hyderus ac yn rapiwr medrus.
- Welsh Dragon (Benywaidd/Anneuol)*
Actor unrhyw oed o ganol y dauddegau ymlaen sy’n Ddu neu â chefndir ethnig cymysg du. Mae gofyn iddynt fod yn siaradwr Cymraeg hyderus ac yn rapiwr a bod yn berfformiwr egnïol a phowld.
- G (Benywaidd)*
Actor ac iddynt oed actio yn y dauddegau ac sy’n Ddu neu â chefndir ethnig cymysg du. Mae gofyn iddynt fod yn medru’r Gymraeg neu’n ddysgwr cryf y Gymraeg a bod yn berfformiwr cryf ac annibynnol.
- Aunt Jo / Advisor(Benywaidd)*
Actor ac iddynt oed actio yn y tridegau neu’r pedwardegau ac sy’n Wyn. Mae gofyn iddynt allu gwneud acen De-orllewin Lloegr ac acen Gymraeg a gallu traddodi perfformiad comedïaidd a mamol.
- King Vortigern / Saxon Dragon / Saxon Soldier(Gwrywaidd)*
Actor ac iddynt oed actio rhwng y tridegau a diwedd y pumdegau ac sy’n Wyn. Mae gofyn iddynt allu newid rhwng tri chymeriad, o Frenin grymus o Gymro i Filwr Sacsonaidd distadl. Mae gofyn iddynt allu gwneud acen Saesneg ranbarthol ac acen De-orllewin Lloegr.
*Er ein bod wedi nodi rhywedd y cymeriadau yn y ddrama, does dim gofyn i chi ymddynodi fel y rhywedd yma i wneud cais am y rhan.