Prosiect Celf Cronfa Ffyniant Gyffredin Wrecsam a Glandŵr Cymru
Galwad am Ymarferydd Creadigol / Artist 

Mae Glandŵr Cymru’n chwilio am ymarferydd creadigol i greu newid o ran y ffordd y mae ysgolion, pobl ifanc a’r gymuned ehangach yn ymgysylltu gyda Safle Treftadaeth y Byd ar Gamlas Llangollen.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

Sut gall creadigrwydd siapio dysgu sy’n seiliedig ar leoedd er mwyn ychwanegu gwerth at y dysgu a’r sgiliau sydd ar gael ym Masn Trefor. 

Gan ddechrau gydag ysgolion, mae’r Glandŵr Cymru yn archwilio Basn Trefor fel gofod unigryw ar gyfer dysgu sy’n pontio cenedlaethau, gan edrych ar ddysgu sy’n seiliedig yng nghyd-destun themâu treftadaeth leol, yr amgylchedd, tirwedd, hunaniaeth, hanes cymdeithasol a chysylltedd.

Rydym yn chwilio am Ymarferydd/Ymarferwyr creadigol profiadol i gyd-greu a threialu gweithgarwch sy’n seiliedig ar leoedd. Byddant yn gweithio gyda 2-3 ysgol er mwyn ail-ddychmygu a goleuo potensial y cynnig addysg i ysgolion yn safle Basn Trefor a allai gysylltu â rhwydwaith camlas 11 milltir y Safle Treftadaeth y Byd.  Rydym yn awyddus i ddeall mwy am natur unigryw Safle Treftadaeth y Byd a’r ardal gyfagos a deall sut y gall y dyfrffyrdd greu gwell cysylltiad rhwng ysgolion, dysgwr a’u cymunedau a sut y gallant eu cynrychioli.  

 

  • Sut gallwn ni helaethu’r naratif er mwyn ymgysylltu â’n cymunedau presennol a chymunedau newydd.

Croesewir ceisiadau gan Ymarferwyr Creadigol uchelgeisiol sydd â chefndir mewn unrhyw ymarfer creadigol ar draws pob disgyblaeth. Boed yn ddawnsiwr, yn storïwr neu’n bensaer, y peth pwysicaf yw eich bod yn gallu defnyddio eich creadigrwydd, a’r ymarfer helaeth sy’n sail iddo, i gyd-lunio ymchwiliad sy’n seiliedig ar leoedd gan edrych ar themâu sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, dreftadaeth leol, yr amgylchedd tirwedd, hunaniaeth, hanes cymdeithasol a chysylltedd.

SWYDD DDISGRIFIAD
Mae’n hanfodol eich bod yn gallu:

 

  • Dychmygu ac ail-ddychmygu 
  • Defnyddio eich profiad o weithio gydag ysgolion a'ch ymarfer artistig eich hun i ddatblygu perthnasoedd cynaliadwy gydag ysgolion, rhanddeiliaid a'r gymuned ehangach.
  • Dangos gallu i ddefnyddio creadigrwydd a dysgu sy’n seiliedig ar leoedd er mwyn ymgorffori newid cynaliadwy o ran dysgu. 
  • Hwyluso ymarferion creadigol er mwyn darganfod sut y gallai gweithio gyda Safle Treftadaeth y Byd gefnogi addysgu a dysgu o fewn y cwricwlwm. Mae'n hanfodol bod yr ymchwiliad yn cael ei ddatblygu gyda'r ysgol(ion), ac nad yw’n rhywbeth a ddatblygwyd ar gyfer yr ysgol(ion).  
  • Cymhwyso eich profiad a'ch creadigrwydd yng nghyd-destun addysgu a dysgu a arweinir gan ymchwiliad. 
  • Ysbrydoli dysgwyr i wella eu profiad dysgu. 
  • Creu ymdeimlad o berthyn.
    • Cefnogi ysgolion i hyrwyddo awtonomiaeth dysgwyr; gan ystyried sut y gall dysgwyr ddysgu am Gamlas Llangollen a chymryd perchnogaeth ohoni er mwyn ei diogelu ar gyfer y dyfodol. 
    • Creu dolen rhwng syniadau, ymagweddau, profiadau, cymunedau, sefydliadau a/neu bartneriaid a allai gefnogi a gwella’r ymchwiliad a galluogi ymgysylltiad cymunedol sy’n fwy dwys ac eang. 
  • Rhoi eich sgiliau rheoli prosiect ar waith er mwyn ymchwilio, cynllunio, cyflwyno a gwerthuso ymholiadau creadigol, gan sicrhau fod myfyrio parhaus yn digwydd yn ystod pob cam.
  • Bod yn gatalydd ar gyfer newid.
    Defnyddio eich gallu i herio, cefnogi a darganfod ffyrdd newydd o weithio er mwyn datblygu arfer cynaliadwy a all lywio potensial y cynnig o ran dysgu a sgiliau sydd ar gael i ysgolion ym Masn Trefor.  
  • Harneisio a rhannu’r hyn a ddysgwyd er mwyn dathlu’r broses a chyfrannu at y trafodaethau mewn digwyddiad dathlu ehangach ym mis Rhagfyr ochr yn ochr ag artistiaid a chymunedau eraill o bob cwr o Safle Treftadaeth y Byd. 
  • Cefnogi nodau etifeddiaeth.
    Treialu ffyrdd newydd o weithio a all ychwanegu gwerth at y dysgu a’r sgiliau sydd ar gael ym Masn Trefor. Gall hyn gynnwys cydweithio â staff a gwirfoddolwyr a/neu greu adnoddau i alluogi parhad y dysgu ar y cyd a ddatblygwyd ar y safle.
     
  • Gweithio gyda thîm y prosiect i gytuno ar feini prawf llwyddiant sy'n adlewyrchu anghenion yr ysgol(ion) ochr yn ochr â nodau ac amcanion yr holl bartneriaid. Arddangos sgiliau cyfathrebu rhagorol er mwyn gallu gweithio heb oruchwyliaeth i gwrdd â therfynau amser.
  • Gweithio gyda thîm y prosiect i gytuno ar feini prawf llwyddiant sy'n adlewyrchu anghenion yr ysgol(ion) ochr yn ochr â nodau ac amcanion yr holl bartneriaid. Arddangos sgiliau cyfathrebu rhagorol er mwyn gallu gweithio heb oruchwyliaeth i gwrdd â therfynau amser.

Mae'r cyfle hwn yn gynhwysol ac yn agored i bawb. Rydym yn annog ceisiadau gan bobl sy’n uniaethu â chefndir a phrofiadau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd yn y celfyddydau (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Pobl Ddu, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig, pobl ag anabledd neu gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd, dosbarth gweithiol, LHDTC+). Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol. 

Bydd yr Ymarferydd Creadigol a ddewisir yn gweithio yn yr ysgolion sydd wedi’u dewis a Chanolfan Ymwelwyr Dyfrbont Pontcysyllte a Basn Trefor,  Trefor, Wrecsam LL20 7TY

Math o Gontract: Llawrydd

Bydd 3 cham cyflawni:

  1. Ymchwil / cynllunio (Mai - Gorffennaf)
  2. Cyflawni (Medi - Hydref)
  3. Gwerthuso / dathlu (Tachwedd - Rhagfyr)

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn rhywun sy’n cynhyrchu syniadau, yn gallu negodi partneriaethau'n effeithiol; gweithio ochr yn ochr â thîm y prosiect er mwyn cefnogi’r gwaith o ddod o hyd i’r plant, athrawon, staff, gwirfoddolwyr a chymunedau ehangach a fydd yn cymryd rhan yn y prosiect.  

Ffi: £300 y diwrnod neu £150 yr hanner diwrnod ynghyd â threuliau teithio rhesymol y tu allan i radiws o 20 milltir o Fasn Trefor dros gyfnod sy'n cyfateb i 21 diwrnod llawn rhwng mis Mai a mis Rhagfyr.
Mae'r taliad hwn yn cynnwys TAW. 

Bydd cyllideb ychwanegol ar gyfer adnoddau ar gael i gefnogi cyflawniad gweithgareddau. 

Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael i: 

  • Fynychu cyfweliad ddydd Iau, 18 Ebrill 2024
  • Gweithio tuag at arddangos y gwaith fel rhan o ddigwyddiad dathlu a gynhelir rhwng diwedd Tachwedd a dechrau Rhagfyr (i'w gadarnhau).

Gellir trafod y dyddiau eraill y bydd yr ymarferydd yn gweithio rhwng mis Mai a mis Rhagfyr. 

Sut i wneud cais:

Anfonwch ddatganiad o ddiddordeb, ynghyd â CV a hyd at 3 x dolen i ddelwedd jpeg / fideo o'ch gwaith at Claire Farrell. Sicrhewch fod eich mynegiant o ddiddordeb yn adlewyrchu'r disgrifiad swydd a’i fod yn cynnwys enghreifftiau perthnasol o’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yn y gorffennol.  

Neu, gallwch ddarparu ffilm neu recordiad 5 munud yn amlinellu'r meini prawf uchod. 

Byddai gwiriad DBS manwl cyfredol yn yn ddymunol. Fodd bynnag, os nad oes gennych un bydd angen i ni drefnu i wiriad DBS gael ei wneud ar frys yn dilyn eich penodiad.  

Dyddiad cau: 12pm 12 Ebrill 2024

Cyflwynwch eich mynegiant o ddiddordeb neu i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Claire Farrell - Cyfarwyddwr Prosiect Celf Safle Treftadaeth y Byd
claire.farrell@canalrivertrust.org.uk 

Cefndir 

Mae’r cyfle hwn yn rhan o Brosiect Celf Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte Glandŵr Cymru (Yr Ymddiriedolaeth) sy’n brosiect creu lleoedd celfyddydol cymunedol a gynhelir rhwng Rhagfyr 2023 a Rhagfyr 2024. Bydd ymarferwyr creadigol yn gweithio’n helaeth gyda chymunedau Safle Treftadaeth y Byd (WHS) gan ganolbwyntio ar bedair ardal ym Mwrdeistref Wrecsam i archwilio themâu sy’n seiliedig ar leoedd sy’n rhychwantu cysylltedd, treftadaeth, tirwedd, hunaniaeth, gwerinair chwareus a hanes cymdeithasol. Wedi’i sefydlu yn 2012, Glandŵr Cymru yw elusen camlesi fwyaf y DU. Mae’n gofalu am rwydwaith 2,000 milltir o gamlesi trawiadol ac afonydd mordwyol. Rydym yn cysylltu nifer o ardaloedd trefol a gwledig y DU, ac rydym yn darparu mannau hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt a phobl fel eu gilydd. Mae hyn yn ein helpu ni i gyd i deimlo'n hapusach ac yn iachach. Mae’r dyfrffyrdd 250 oed sydd yn ein gofal – y camlesi, y glannau, y ceuffosydd a’r cronfeydd dŵr yn ogystal â’r pontydd, y lociau a’r llwybrau halio – a’u hecosystemau hanfodol dan fygythiad gan effaith gynyddol newid hinsawdd a thywydd mwy eithafol.  Ariennir Prosiect Celf Safle Treftadaeth y Byd Pontcysylltegan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae’n rhoi £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ym mhob cwr o’r DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol yn ogystal â phobl a sgiliau. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma

 

 

Dyddiad cau: 12/04/2024