CYNLLUN YSGOLION CREADIGOL ARWEINIOL
Ysgol Gynradd y Garreg Wen, Clos Rushwind, West Cross, Abertawe SA3 5RH
Cyllideb: £5,000 | Hyd y Prosiect Mai – Medi 2024
Dyddiad Cau Gwneud Cais: Canol nos 05 Mai 2024

Mae Ysgol Gynradd y Garreg Wen yn gwahodd ceisiadau gan Ymarferwyr Creadigol (unigolion / partneriaethau / stiwdios / cyrff) i weithio gyda dosbarth o bedwar ar ddeg o ddisgyblion Blwyddyn 2 (merched a bechgyn, 6-7 oed ym mlwyddyn olaf Cwricwlwm CA1) i ddatblygu ffyrdd creadigol o ddefnyddio mannau awyr agored yr ysgol i wella medrau rhifogrwydd a chymhwyster digidol y disgyblion.  Mae gan yr ymholiad hefyd yn amcan wella lles y disgyblion drwy weithgareddau creadigol ac yn yr awyr agored.

Mae gan yr ysgol fannau awyr agored campus, gan gynnwys llecyn coediog, cae rygbi o lawn faint, cylchau cerrig a choed derw hardd.  Mae gennym hefyd Bwyllgor Eco.

Byddwn ni yn Ysgol Gynradd y Garreg Wen yn dathlu pen ein blwydd yn hanner cant eleni ac at hynny gwelwn yr ymholiad Ysgol Greadigol Arweiniol yma’n garreg filltir allweddol yn ein dathliadau a gobeithio y bydd lle i roi’r gwersi a ddysgir ar waith drwy hyd a lled yr ysgol.

Y brîff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma

Dyddiad cau: 05/05/2024