Rydym yn gwahodd cyflwyniadau gan weithwyr creadigol proffesiynol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol i greu gwaith/gweithiau celf ar hysbysfyrddau sy’n rhoi tirweddau Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Ngogledd Cymru mewn cyd-destun newydd. Bydd yr hysbysfyrddau yn cael eu harddangos fel gweithiau celf dros dro fel rhan o ddigwyddiad dathlu ar gyfer Prosiect Celf Safle Treftadaeth y Byd: Y Bont sy'n Cysylltu gan Glandŵr Cymru. Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar y 23ain a’r 24ain o Dachwedd 2024 yn wahoddiad i brofi Safle Treftadaeth y Byd mewn modd wahanol iawn. Mae’r profiad gwahanol hwn wedi’i siapio, ei ddylanwadu a’i ail-ddychmygu gan y cymunedau sy’n byw yng Nghefn Mawr, Basn Trefor, Y Waun a Froncysyllte. Rhedir Y Bont sy’n Cysylltu gan Glandŵr Cymru ac mae wedi’i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy Gyngor Bwrdeistref Wrecsam.

Mae Cefn Mawr, Basn Trefor, Y Waun, Froncysyllte a llawer o fannau eraill o fewn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn adleisio, mewn modd gweledol, ffisegol ac economaidd, y diwydiant a wnaeth yr ardal yn adnabyddus yn fyd eang flynyddoedd yn ôl a’r dreftadaeth ddiwydiannol y mae’r ardal yn enwog amdano hyd heddiw.  Bu’r tirwedd topograffig, y bensaernïaeth a’r rhwydwaith o gamlesi a welwn yma heddiw’n dyst i ddatblygiad diwydiannau megis mwyngloddio glo, chwarela a gwaith dur, diwydiannau, yn ôl rhai, a ddaeth yn gatalyddion ar gyfer y chwyldro diwydiannol. Bu agor dyfrbont Pontcysyllte a Chamlas Ellesmere ar ddechrau’r 19eg ganrif yn fodd o gludo nwyddau a deunyddiau lawer. Heddiw mae twristiaeth yn denu 500,000 o ymwelwyr o’r DU a thu hwnt. Maent yn heidio yma bob blwyddyn er mwyn gwerthfawrogi’r harddwch rhamantus a’r campau peirianyddol.

Fodd bynnag, faint o’r ymwelwyr hyn sy’n cael y cyfle i edrych yn fanylach ar Wrecsam wledig ac ar yr haenau cymhleth o hanesion bywyd sydd wedi siapio’r ardal hon a’i phobl? Mae’r Bont sy’n Cysylltu yn brosiect creu lleoedd a arweinir gan gymuned a diwylliant sy’n archwilio tirwedd ddiwylliannol bresennol yr ardal hon, ac sy’n ceisio dod i ddeall sut y daeth y lle hwn i fodolaeth? Gan weithio ar draws pedair cymuned, ein nod yw mynd ati’n chwareus, yn llawen ac o ddifri i edrych ar yr hyn y gallai potensial statws Safle Treftadaeth y Byd ei olygu yn y dyfodol i’r cymunedau sy’n byw yno.  

Mae Safle Treftadaeth y Byd wedi denu ymwelwyr erioed, o'r rheiny a oedd yn chwilio am yr harddwch yn y 18fed ganrif i’r rheiny sy’n heidio yma hyd heddiw.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar gyflwyno a rhannu treftadaeth gudd, hanes cymdeithasol ac amgen trwy eu cyflwyno’n weledol mewn mannau cyhoeddus a mannau cymunedol. Gan gydnabod rhwystrau systemig a’r diffyg amrywiaeth o ran gweithiau celf yn y byd cyhoeddus, rydym wedi gwahodd y curadur a’r artist gweledol Chantelle Purcell i greu cyfleoedd ar gyfer gweithwyr creadigol proffesiynol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol.  Trwy'r gweithiau celf hyn rydym yn eich gwahodd i gwestiynu; sut mae cysylltu'n well â'r tirweddau ôl-ddiwydiannol hyn? Sut gall iaith helpu i greu gwell cysylltiad? Pa argraffnodau sydd ar ôl o fewn y dirwedd a welwn o ddydd i ddydd? Beth yw teimlad cymunedau heddiw am y ffordd y datgomisiynwyd y masnachau hyn a sut mae cymunedau amlddiwylliannol y dyfodol yn cysylltu â’r gefnwlad sy’n amgylchynnu’r tirnodau hanesyddol? 

Briff Artist:

Mae'r Bont sy'n Cysylltu eisiau comisiynu gweithwyr creadigol proffesiynol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol i ymateb i safleoedd ym mhob cwr o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, a thrwy hyn gynnig persbectif newydd er mwyn ail-fframio'r dirwedd ar gyfer cymunedau'r dyfodol. Dylai'r gweithiau celf anelu at gyflwyno dehongliad amgen o safle treftadaeth y Byd. 

  • O gartref cymunedau amaethyddol bychain o siaradwyr Cymraeg i gartref diwydiant a datblygu tir er elw, i le y gellir gwerthfawrogi byd natur. 
  • O brysurdeb diflino diwydiant i fwrlwm llawen twristiaeth  

Mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i 2-3 artist arddangos gwaith celf dros dro mewn dau safle yn Nhrefor (Prif Fynedfa Dyfrbont Pontcysyllte o’r maes parcio ymwelwyr) a Chefn Mawr. Ar hyn o bryd mae mynedfa GPS Pontcysyllte yn arwain ymwelwyr i faes parcio dros dro sydd â mynediad i Fasn Trefor, dylai’r gweithiau celf yma greu ymdeimlad ymhlith ymwelwyr eu bod wedi cyrraedd y porth i Ddyfrbont Pontcysyllte, a chynrychioli hunaniaeth y cymunedau cyfagos o ran ymatebion i un (neu fwy) o gwestiynau yr ydym wedi gofyn i chi eu hystyried. 

Mae Cefn Mawr yn dref sydd â threftadaeth ddiwydiannol bwysig. Ar un adeg roedd diwydiannau trwm yn dominyddu'r ardal a byddai dyddodion helaeth o haearn, glo a thywodfaen yn cael eu cloddio am eu cyfoeth mwynol. Byddai llawer o’r mwynau hyn wedi cael eu cludo ar y gamlas a thros Dyfrbont Pontcysyllte. Dylai'r gweithiau celf hyn gynrychioli’r dreftadaeth a dathlu'r natur sy’n byw ochr yn ochr â hi, gan ymdrin â themâu adnewyddu a chynaliadwyedd. 

Bydd pob artist yn datblygu gwaith celf mewn ymateb i’r briff hwn. Gall y gwaith fod yn ailgread o waith, arfer neu syniad sy’n bodoli ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei arddangos yn gyhoeddus mewn dau safle hanesyddol ar strwythurau hysbysfyrddau wedi’u hadfer (120 x 90 cm, 2.4 metr o uchder a 120 x 120 cm, 2.4 metr o uchder). 

Rydym yn annog amrywiaeth o ymatebion artistig o ffotograffiaeth, celfyddyd gain, barddoniaeth a pherfformiad i lansio’r gweithiau celf. Ein nod yw chwyddleisio lleisiau amrywiol er mwyn ymgysylltu â’r tir o’n cwmpas – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. 

Pwy all Ymgeisio:

  • Gweithwyr proffesiynol creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol
  • Maent yn byw ac yn gweithio yng Nghymru neu mae ganddynt bractis wedi'i leoli yng Nghymru

Canllawiau:

  • Datblygu gwaith mewn ymateb i Safle Treftadaeth y Byd UNESCO 
  • Darparu ffeiliau digidol yn y fformat canlynol: TIFF neu JPG res Uchel ar 120 x 90 cm neu 120 x 120 cm
  • Gallwch gynnig bod y gwaith celf yn cael ei actifadu yn y fan a'r lle trwy ffurf arall os dymunwch wneud hynny 

Bydd ein tîm yn gofalu am gynllun y gwaith celf, argraffu a gosod.

Lleoliad y safleoedd:

Cefn Mawr a mynedfa Basn Trefor. 

Bydd eich gwaith yn cael ei ddogfennu a'i arddangos mewn dangosiad arbennig yn Broadworks yn Liverpool Street, Llundain ym mis Rhagfyr 2024 neu’n gynnar yn 2025. 

Ffi Artist:

Ffi yr artist yw £1,000 yr artist. Bydd treuliau a chostau teithio hefyd yn cael eu talu hyd at £200.

Rhagwelwn y bydd y cyfle’n cefnogi tua 3 diwrnod o waith wedi’i ddosrannu (yn amodol ar a yw’r gwaith yn ymateb newydd neu’n ailgread o waith, ymarfer/ syniad sy’n bodoli’n barod) 0.5 ymchwil pen desg, 0.5 diwrnod o ymweliad safle os oes angen a 2 ddiwrnod ar gyfer cynhyrchu.  

Bydd y curadur yn sicrhau bod pob ffeil yn barod i'w hargraffu a bydd y tîm cynhyrchu'n cyflwyno'r gosodiad. 

Sut i wneud cais:

Cam 1: 

I wneud cais am yr alwad agored hon defnyddiwch y ffurflen ganlynol i gyflwyno eich mynegiant o ddiddordeb.  Bydd artistiaid wedyn yn cael eu rhoi ar restr fer ac yna’n cael y cyfle. 

DOLEN I’R FFURFLEN

https://shorturl.at/1EVVH

Cam 2: 

Bydd y 2-3 artist yn cael eu penodi ym mis Hydref a bydd ganddynt 4 wythnos i ddatblygu eu gweithiau.

 

Dyddiad cau: 04/10/2024