Mae ein hadeilad rhestredig Gradd II, 46 o flynyddoedd oed, yn cael ei ailddatblygu'n sylweddol ar hyn o bryd.
Gan weithio gyda’r penseiri nodedig, Haworth Tompkins, bydd y gwaith hanfodol yma’n sicrhau cartref gwyrdd a chynaliadwy i’n cymunedau ni, gan ddiogelu profiadau diwylliannol, lles a chymunedol o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Fel adeilad diwylliannol a chanolfan gelfyddydol o bwys, bydd celf gyhoeddus yn ganolog i’r prosiect, gyda darnau lluosog yn cael eu rhannu’n barhaol gyda chymunedau.
Rydyn ni’n chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan artistiaid, crëwyr theatr a thimau dylunio cydweithredol i greu’r gelfyddyd gyhoeddus yma. Rydyn ni eisiau comisiynu celf gyhoeddus sy’n ysbrydoledig ac yn gynhwysol, ac sy’n gwella ein henw da ni fel esiampl o ragoriaeth artistig a chartref i’n cymunedau.
Mae gennym ni dri chyfle Galwad Agored ac rydyn ni’n gweithio gyda’r cwmni ymgynghorol arobryn, studio three sixty, i gyflawni’r rhan hanfodol yma o’n hailddatblygiad:
Y tri chyfle yw:
Galwad Agored 1: Comisiwn Iaith Greadigol
Ymateb artistig i iaith a straeon, gan annog pobl i ddod ar draws ac ymgasglu ar draws ein hadeilad newydd.Galwad Agored 2: Gosod Gwrthbwysau
Gosodiad wedi'i ysbrydoli gan system wrthbwysau wreiddiol y theatr sy'n cael ei newid yn Theatr Anthony Hopkins, sydd wedi'i hachub fel rhan o'r broses adeiladu.Galwad Agored 3: Llen Ystafell Foyle
Dyluniad ar gyfer llen bwrpasol ar raddfa fawr ar gyfer Ystafell Foyle, “gofod ymgynnull” amlbwrpas sydd wrth galon yr adeilad newydd.
Rydyn ni’n agored i ffotograffiaeth, celf ddigidol 2D, celf fideo, celf ryngweithiol, paentio, cerflunwaith a gosodiadau. Rydyn ni hefyd yn agored i ddisgyblaethau theatr gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cynllunwyr, cynllunwyr goleuo, cynllunwyr sain, cynllunwyr taflunio, gwneuthurwyr props, awduron, a gwneuthurwyr gwisgoedd / tecstilau i ymateb i’r alwad hon. Fel artistiaid, pobl greadigol a chrëwyr theatr rydyn ni, wrth gwrs, yn croesawu yn gynnes iawn gydweithredu rhwng disgyblaethau ac artistiaid.
Mae’r cyfleoedd yma’n cael eu cyllido gan ddeddfwriaeth ‘Canran o Gelf’ Cyngor Celfyddydau Cymru.