Oriau: tua 25 y flwyddyn
Rôl wirfoddol ddi-dâl
Dyddiad cau: 28 Mawrth 2025
Mae Artes Mundi yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer darpar ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’n Bwrdd.
Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n gallu cyfrannu at waith cynllunio a gwaith presennol Artes Mundi drwy eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u rhwydweithiau i gefnogi’r tîm staff, ac i’n helpu i gyflawni ein cenhadaeth.
Rydyn ni’n arbennig o awyddus i glywed gan bobl â phrofiad o lywodraethu mudiadau elusennol bach, a gan bobl sydd â dealltwriaeth o gyd-destunau polisi ar gyfer cyrff yng Nghymru.
Artes Mundi sy’n cyflwyno’r wobr ryngwladol fwyaf yn y DU ym maes y celfyddydau gweledol, ac mae’n cynnal arddangosfa fawr bob dwy flynedd sy’n arddangos yr artistiaid sydd ar y rhestr fer. Y tu hwnt i’r prosiectau craidd hyn, mae Artes Mundi yn cynnig rhaglen gyfoethog o ddeialogau a dadleuon, prosiectau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, yn rhyngwladol ac yn lleol, sy’n datblygu gwell dealltwriaeth ohonom ni ein hunain, o bobl eraill, ac o’r berthynas rhwng diwylliannau cyfarwydd a diwylliannau pell.
Rydyn ni’n annog datganiadau o ddiddordeb gan ddarpar Ymddiriedolwyr sy’n bobl o liw ac yn bobl iau yn arbennig, a gan bobl y mae eu profiadau a’u safbwyntiau yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd ar y Bwrdd ac yn sector y celfyddydau. Mae gwerthfawrogiad o werthoedd Artes Mundi yn hanfodol. Mae gwybodaeth uniongyrchol am y celfyddydau cyfoes yn ddymunol ond nid yn hanfodol, gan fod hyn yn datblygu fel rhan o rôl yr Ymddiriedolwyr.
I gael sgwrs anffurfiol a rhagor o wybodaeth, e-bostiwch opportunities@artesmundi.org at sylw ar y cyd Mike Tooby, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr a Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi, gan nodi ‘Recriwtio Ymddiriedolwyr’ yn y llinell pwnc.