Bwrsariaethau datblygu cerddoriaeth i’r rheiny ar ddechrau eu gyrfa yn arwain at WOMEX, 23-27 Hydref 2024 ym Manceinion

WOMEX – Worldwide Music Expo – yw ymgasgliad pennaf y sîn gerddoriaeth fyd-eang, ac mae’n cynnwys ffair fasnach, cynhadledd, a rhaglen o gyngherddau arddangos. Mae’r digwyddiad yn cwmpasu rhychwant eang o genres cerddorol, gan amrywio o’r mwyaf traddodiadol i’r tanddaearol lleol byd-eang newydd ac yn cofleidio gwerin, roots, jazz, diwylliannau lleol ac alltud, ynghyd â synau trefol ac electronig o bob rhan o’r byd. Bob blwyddyn mae WOMEX yn cael ei chynnal gan ddinas Ewropeaidd wahanol, Manceinion yw gwesteiwr 2024 – y trydydd tro iddi gael ei chynnal gan ddinas yn y DU yn ei hanes 30 mlynedd.

Mae Tŷ Cerdd a Trac Cymru – mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a FOCUS Wales –  yn cynnal rhaglen fentora ar gyfer cerddorion/pobl  broffesiynol yn y byd cerdd sydd ar ddechrau eu gyrfa ac sydd am wneud y mwyaf o fynychu WOMEX 2024 fel cynrychiolwyr.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn:

  • Rhaglen bwrpasol o fentora gan weithwyr proffesiynol yn y sector rhwng mis Mai a mis Medi 2024
  • Lle yn yr Uwchgynhadledd Ieuenctid, wedi’i gynnal gan Brighter Sounds, Manceinion
  • Bwrsariaeth i fynychu WOMEX, 23-27 Hydref – yn rhan o ddirprwyaeth Cymru
Dyddiad cau: 17/04/2024