Rydym yn galw ar grewyr cerddoriaeth i ymuno â llwybr datblygu sydd â thâl ar gyfer ysgrifennu i ffidil ac electroneg.

Bydd 6 o grewyr cerddoriaeth yn cael eu mentora drwy’r broses gan Angharad Davies (cyfansoddwr) a Darragh Morgan (feiolinydd), sef artistiaid blaenllaw ym myd cerddoriaeth newydd y Deyrnas Unedig.

Bydd y 6 chyfranogwr a ddewisir yn derbyn £500 yr un (ynghyd â chostau teithio o fewn Cymru) i gymryd rhan mewn gweithdai dros gyfnod o 7 mis, gan ddatblygu eu hymarfer mewn un o ddwy ffordd:

  • trac electronig cyfryngau sefydlog gyda pherfformiad ffidil byw
  • prosesu sain byw gyda pherfformiad ffidil byw

Bydd gan yr artistiaid sy’n cymryd rhan brofiad blaenorol o weithio gydag electroneg (ynghyd â chaledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol). Byddwn ni’n darparu meicroffonau, system sain, desg gymysgu a pheiriannydd. Bydd cyfle i recordio ffynonellau yn y gweithdai cynnar a gellid defnyddio’r rhain i ddatblygu traciau electronig.

Ffocws y llwybr yw datblygu sgiliau a rhoi cyfle i brofi ac archwilio. Bydd gweithiau newydd sy’n cael eu creu yn cael eu recordio i’w defnyddio yn yr archif a (lle bo’n briodol) yn cael eu cyhoeddi gan Gyhoeddiadau Tŷ Cerdd.

Mae’r prosiect yn bosibl oherwydd cefnogaeth hael gan amrywiaeth o gyllidwyr, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Jerwood, a Sefydliad PRS.

Dyddiad cau: 1200 ganol dydd ar ddydd Gwener 19 Gorffennaf

Darllenwch mwy: Ffidil plws CYM | tycerdd

 

Dyddiad cau: 19/07/2024