Roedd Eirian Llwyd yn creu printiau nodedig iawn. Hi oedd sylfaenydd Y Lle Print Gwreiddiol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Goffa yn ei henw i gynnig gwobrau ariannol i artistiaid newydd a rhai sy’n dod i’r golwg yng Nghymru sy'n gwneud printiau. Gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig gwobr i un artist bob blwyddyn o hyd at £2,500.

Caiff curaduron oriel a chanolfannau argraffu yng Nghymru y cyfle i enwebu artist printiau ymroddgar a thalentog a fyddai’n elwa o’r cyfle. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau eleni yw 25 Mai 2022.

Croesawn yn arbennig enwebu gwneuthurwyr printiau o gefndiroedd a dangynrychiolir. Gall hyn olygu pobl sy'n wynebu rhwystrau i gyfleoedd oherwydd eu rhywioldeb, eu hethnigrwydd, eu cefndir cymdeithasol ac economaidd neu eu hanabledd.

Bwriad yr arian yw galluogi'r artist i ddatblygu a pharhau â gwneud printiau, er enghraifft: prynu offer creu printiau, cynnal sioe unigol, preswyliad printiau neu fentora gan rywun mwy profiadol.

Mae gwybodaeth am gymhwysedd a meini prawf asesu wedi'u cynnwys yn y canllawiau a geir o ymweld â https://arts.wales/cy/gwobr-goffa-eirian-llwyd