Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru. Mae'n cyfrannu at hunaniaeth ddiwylliannol Caerdydd a Chymru ac yn denu rhai o'r myfyrwyr mwyaf dawnus o bob cwr o'r byd.
Rydym yn darparu hyfforddiant arbenigol ymarferol a seiliedig ar berfformiad mewn cerddoriaeth a drama, ac yn cystadlu ochr yn ochr â grŵp cyfoedion rhyngwladol o conservatoires a cholegau celfyddydol arbenigol ar gyfer y myfyrwyr gorau yn fyd-eang, gan alluogi myfyrwyr i fynd i fyd cerddoriaeth, theatr a phroffesiynau cysylltiedig a dylanwadu arnynt.
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a hyblyg i ddarparu cefnogaeth weinyddol a sefydliadol effeithiol ar gyfer cyrsiau a gweithgarwch cymunedol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Ifanc (Cerddoriaeth), gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau amgylchedd dysgu diogel, croesawgar ac o ansawdd uchel i gerddorion ifanc a gwasanaeth effeithlon i deuluoedd, tiwtoriaid a phartneriaid allanol. Ar hyn o bryd mae’r adran yn darparu ar gyfer oddeutu 200 o blant a phobl ifanc bob wythnos, yn ogystal ag oddeutu 30 o ddysgwyr cymunedol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn profiadol gyda sgiliau trefnu a gweinyddu cryf ac ymrwymiad i gefnogi lles ac addysg plant a phobl ifanc.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar ddydd Sadwrn yn ystod y tymor ac yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer plant, pobl ifanc, oedolion sy’n dysgu, tiwtoriaid a theuluoedd. Bydd ganddynt lygad craff am fanylion, sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol effeithiol a byddant yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd celfyddydau perfformio prysur.
Mae hon yn swydd barhaol llawn amser. Patrwm gwaith y swydd hon fyddai dydd Mawrth i ddydd Sadwrn yn ystod tymor (Cerddoriaeth) Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Ifanc a dydd Llun i ddydd Gwener y tu allan i’r tymor.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac rydym yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol, trawsrywiol a siaradwyr Cymraeg yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n deg.
Rydym yn cynnig nifer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol ac yn gweithredu system gweithio hyblyg. Dysgwch am fanteision gweithio gyda ni.
Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Brifysgol (neu os ydych yn cael eich cyflogi gan PSS Ltd ar hyn o bryd), byddwch yn cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Colegau. Os ydych yn ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â caroline.alford@rwcmd.ac.uk
Dyddiadau’r cyfweliad: 29 Chwefror ac 1 Mawrth 2024