Contract Cyfnod Penodol - Chwefror 2026

Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydym yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Cynllunio i ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru yn ystod cyfnod o newid.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

Byddwch yn cysylltu â'r holl adrannau ar draws y cwmni i ddarparu gwybodaeth gywir am gynlluniau ymarfer a pherfformio.Byddwch yn defnyddio ein system gynllunio- Diese - i gadw cofnodion a chyflwyno amserlen wythnosol i'r cwmni cyfan. Byddwch yn gyfrifol am reoli ac archebu lleoedd yma yn WMC ac ar draws ein lleoliadau taith.

Beth fydd angen i chi ei wybod?

Gwybodaeth a hyfedredd rhaglenni Microsoft Office. Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig cryf. Y gallu i ddatrys problemau a thrafod atebion. Sylw rhagorol i fanylion a sgiliau rheoli amser.

Mae'r swydd yn addas i:

Y rhai sy'n edrych i ddechrau gyrfa yn y sector celfyddydau/diwylliannol. Rhywun sy'n chwilfrydig am sut rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i greu opera o'r radd flaenaf a hefyd ysbrydoli plant/pobl ifanc/cymunedau i gymryd rhan. Rhywun sydd â diddordeb mewn sut y gall prosesau a systemau effeithlon helpu i gefnogi ein timau i gyflawni eu gwaith gorau.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

Diddordeb amlwg yn y sector celfyddydol/diwylliannol.

Y gallu i weithio fel rhan o dîm.

Beth allwn ni ei gynnig i chi?

Cyflog Cystadleuol

Gwyliau Blynyddol

£25,055 y flwyddyn

Mae gan gydweithwyr yr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n mynd o 1af Medi i 31 Awst.Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn.Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.

Pensiwn

Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.

Aelodaeth Campfa

Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.

Gostyngiadau

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwesty Future Inn yng Nghaerdydd.

Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park

Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori cyfrinachol am ddim sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.

Gwersi Cymraeg

Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.

Ychwanegiadau at Fy Nghyflog

Mae'r holl gydweithwyr yn cael eu hymrestru'n awtomatig yng nghynllun pensiwn Scottish Widows wedi 3 mis o wasanaeth.

Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â Llinos.beasley@wno.org.uk 
 

Dyddiad cau: 26/05/2025