Cynllunio, rheoli a darparu digwyddiad/au cyhoeddus i lansio
Llwybrau Newydd Abergwaun ac Wdig, Sir Benfro, Hydref 2024
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio dyfynbrisiau ar gyfer cynllunio, rheoli a darparu digwyddiad/au cyhoeddus awyr agored i Abergwaun ac Wdig, Sir Benfro i nodi lansio llwybrau newydd sydd wedi’u comisiynu. Dylai’r digwyddiad/au ddigwydd Haf - Hydref 2024. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Theatr Byd Bach wedi ei chomisiynu i greu’r llwybr. Dylid dylunio’r digwyddiad/au i lansio’r llwybr a bydd angen cydweithio’n sylweddol gyda Theatr Byd Bach i gydlynu gweithgarwch a chytuno ar ddyddiadau. Dylai’r digwyddiad/au fod ar raddfa fawr, yn pontio’r cenedlaethau a chynnwys yr holl gymuned, bod yn hwyl, yn ddiddorol ac yn ddathliad. Gallai hyn fod ar ffurf parêd neu orymdaith drwy ganol y dref, neu ar ffurf arall i’w chynnig gan y cyflenwr.
Disgwylir i’r digwyddiad/au ddenu 1500+ o bobl.
Disgwylir i’r digwyddiad/au:
- Dathlu a nodi cwblhau comisiwn y llwybrau
- Dathlu a chydnabod treftadaeth a diwylliant cyfoethog Abergwaun ac Wdig
- Cynyddu balchder am le ymhlith cymunedau Abergwaun ac Wdig a’u hymwelwyr
- Cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y trefi
- Datblygu a gwella enw da Abergwaun ac Wdig fel cyrchfannau celfyddydol a diwylliant yn y sir.
- Gwella canfyddiad pobl o ddigwyddiadau yng nghanol y trefi
Gwahoddir dyfynbrisiau tua £22,000 - £24,999. Bydd dyfynbrisiau o £25,000 a throsodd yn cael eu gwrthod.
Dyddiad cau ar gyfer dyfynbrisiau Dydd Mawrth 19 Mawrth 5 pm
Cysylltwch â Ruth Jones ruth.jones@pembrokeshire.gov.uk am y briff llawn