Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig 6 bwrsariaeth sy’n talu am gost lawn Cynhadledd AMA 2025 — gyda 3 ohonynt ar gyfer sefydliadau bach /gweithwyr llawrydd yn unig.
Fel rhan o’r cynnig bwrsariaeth, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn talu hyd at £400 tuag at ffioedd llety a theithio.
Mae ceisiadau ar agor i aelodau o AMA a rhai nad ydynt yn aelodau ond sy’n gweithio i sefydliadau ar draws y sector diwylliannol.
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r meini prawf canlynol.
Meini prawf:
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr unigol fod yn gweithio fel gweithiwr celfyddydol llawrydd yng Nghymru neu mewn sefydliad celfyddydol sydd yng Nghymru
Sut i wneud cais:
Llenwch y ffurflen gais ar-lein erbyn dydd Gwener 12 Mai 2025 am 12.00pm.
Dyddiad cau: 12/05/2025