Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi ei ymateb i adroddiad ymchwil sy’n edrych ar ddosbarthiad a chryfder gweithgarwch celfyddydol Cymraeg. Mae wedi gwneud ymrwymiad clir i gynyddu er budd pawb fuddsoddiad yn natblygiad gweithgarwch celfyddydol Cymraeg.

Comisiynwyd yr adroddiad yn Nhachwedd 2019 gan Elen ap Robert, ymgynghorydd celfyddydol llawrydd, ar ôl proses o dendro agored. Derbyniwyd argymhellion yr adroddiad yn Hydref 2020.

Meddai Marian Wyn Jones, Dirprwy Gadeirydd y Cyngor a Chadeirydd Pwyllgor y Gymraeg:

“Rydym ni’n croesawu’r adroddiad yn wresog a derbyn ei argymhellion yn llwyr. Mae ymrwymiad y Cyngor i gynyddu ei fuddsoddiad mewn gweithgarwch celfyddydol Cymraeg drwy ei rhaglenni Loteri Genedlaethol yn gam mawr ymlaen. Dylai hyn helpu i sicrhau y gall llawer rhagor o bobl fwynhau’r celfyddydau Cymraeg, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.
 

“Rydym ni’n hynod ddiolchgar i’r sefydliadau a’r unigolion sydd wedi ymateb inni a darparu gwybodaeth a’u syniadau gwerthfawr. Mae hyn wedi llywio ein hymateb. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r partneriaid sydd gennym a rhai’r dyfodol i ddatblygu cynulleidfaoedd newydd a gwneud yr iaith yn fwy hygyrch drwy’r celfyddydau.”

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr y Cyngor:

“Mae’r Gymraeg yn ffordd wych o ddeall a mwynhau ein llenyddiaeth a’n diwylliant. Mae gan y celfyddydau gyfraniad mawr i’w wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu. Ond mae’r adroddiad yn profi na allwn orffwys ar ein rhwyfau, rhaid inni fod yn weithgar dros y Gymraeg. Rhaid inni ddod â chreadigrwydd a dychymyg i’r frwydr i gadw’r iaith.

“Rhaid i ni wella sut rydym ni’n annog sefydliadau celfyddydol i weithio’n ddwyieithog. Wedyn gallwn weld manteision y Gymraeg yn y Gymru gyfoes ac mewn byd amlieithog. Rydym ni’n cydnabod bod llawer i’w wneud ac ni allwn ei wneud ar ein pen ein hunain. Rydym ni’n cytuno gant y cant â ffocws yr adroddiad ar weithio mewn partneriaeth.”

Mae gan yr Adroddiad Mapio 10 argymhelliad sy’n cyd-fynd ag amcanion cynllun corfforaethol y Cyngor, Er Budd Pawb. Mae manylion llawn am yr argymhellion ac ymateb y Cyngor iddynt yma.