Mae Cyngor Celfyddydau Cymru heddiw yn cyhoeddi lansio cronfa ddycnwch i ddiogelu celfyddydau Cymru rhag effaith argyfwng coronafeirws.

Dyma’r prif bwyntiau:

  • Cronfa ddycnwch o £7 miliwn oddi wrth y Cyngor a Llywodraeth Cymru ar y cyd gyda £5.1m yn deillio o arian wedi ei godi trwy'r Loteri Genedlaethol
  • Arian ar gyfer unigolion a sefydliadau
  • Y Cyngor sy’n rheoli’r gronfa
  • Manylion pellach i'w cyhoeddi ddydd Mawrth 7 Ebrill 2020

Heddiw, dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Phil George:

"Mae'r celfyddydau bob amser yn rhoi mwynhad a chysur, yn enwedig mewn argyfwng. Mewn byd sy’n hunanynysu, mae colled fawr ar eu hôl. Byddant o’r pwys mwyaf hefyd wrth adfer y byd wedyn. Mae'n hanfodol felly ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod artistiaid a sefydliadau celfyddydol yn goroesi ac yn ailennill eu lle wrth wraidd diwylliant a lles Cymru.

"Drwy gronfa ddycnwch y celfyddydau, bydd £7 miliwn ar gael i'r sefydliadau a'r unigolion hynny sydd eu hangen fwyaf. Datrys argyfwng ariannol a lleddfu caledi fydd ein tasg gyntaf.

"Rydym ni eisoes wedi llacio'r gofynion ariannu i sefydliadau ac unigolion sydd â’n grantiau, fel y gallant ymateb yn hyblyg i'r anawsterau newydd. Ond heddiw awn ni gam ymhellach. Bydd cronfa ddycnwch y celfyddydau yn pontio'r bwlch rhwng yr argyfwng presennol a’r dyfodol o weithgarwch creadigol newydd ar ôl coronafeirws. Ac mae’r dyfodol eisoes yn ysgogi dychymyg ein cymuned artistig."

Am y camau nesaf, meddai Prif Weithredwr y Cyngor, Nick Capaldi:

"Mae cronfa ddycnwch y celfyddydau yn ymuno â'r pecynnau ariannol a gyhoeddwyd yn barod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain. Ein tasg yw gwneud cyfleoedd y gronfa’n glir a hawdd eu deall. Rydym ni’n gweithio ar frys i lunio’r manylion ymarferol. Rydym ni’n gwybod o’r gorau bod y sector yn awyddus i gael manylion pendant. Ond gobeithio y bydd pawb yn deall mai diwrnod neu ddau ychwanegol fydd yn sicrhau’r canlyniad gorau i bawb yn y pen draw. Felly ddydd Mawrth 7 Ebrill bydd yr holl fanylion ar gael.

"Er gwaethaf y pwysau trwm sydd ar ysgwyddau pawb, mae artistiaid unwaith eto wedi ymateb yn greadigol i her yr amseroedd. Mewn ychydig ddyddiau’n unig, ymddangosodd ar-lein ymatebion bywiog a dyfeisgar gan sefydliadau diwylliannol sy’n cael ein harian cyhoeddus. Rhan o’r arlwy yw cyngherddau, darlleniadau a dosbarthiadau dawns sy'n cael eu ffrydio’n fyw a chlybiau a chorau ar-lein. Mae'r goleuni creadigol yr artistiaid a sefydliadau celfyddydol yn gwrthod llechu yn y cysgodion. A dyna beth rydym ni’n gweithio mor galed i’w amddiffyn."