Heddiw mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi manylion pellach ynghylch ei Chronfa Wytnwch y Celfyddydau a sut yr ydym yn gweithio'n galed i helpu pobl drwy argyfwng coronafeirws.

Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi ailddyrannu arian o'n cyllidebau i greu cronfa ymateb brys o £7m gyda £5.1m o’r arian yn dod o arian yn deillio oddi wrth y Loteri Genedlaethol.

Rydym ni’n gobeithio ychwanegu at hyn drwy weithio gydag ymddiriedolaethau, sefydliadau a chyrff eraill i geisio cynyddu’r gronfa. Rydym ni hefyd wedi newid y gofynion ariannu ar gyfer unigolion a sefydliadau sy’n cael ein harian ar hyn o bryd i leddfu'r pwysau sydd arnynt.

Unigolion a sefydliadau

O'r arian sydd ar gael inni ar hyn o bryd, rydym ni’n bwriadu dyrannu o leiaf £1,500,000 i unigolion gyda'r balans o £5.5 miliwn i sefydliadau. Byddwn ni’n monitro'r galw ar y cyllidebau yma a gallem ni addasu'r dyraniadau i allu ariannu cynifer o bobl ag sy'n bosibl.

Nid yw ein harian yn ddiderfyn. Mae'n bwysig bod cymorth yn cael ei roi i'r rhai sy’n ei angen fwyaf. Dylai darpar ymgeiswyr feddwl yn ofalus felly ynghylch pa un ai y dylent gyflwyno cais ar hyn o bryd. Dibynnwn ni ar bawb i fod yn ystyriol o anghenion pobl eraill wrth ddewis gwneud cais ai peidio.

Am y tro, dyma'r unig grantiau agored i gais y byddwn ni’n eu cynnig. Ein prif flaenoriaeth yn awr yw helpu artistiaid a sefydliadau diwylliannol i oroesi'r argyfwng ac ailsefyll eu busnes.

Amserlen

Ddydd Mawrth 14 Ebrill 2020 byddwn yn lansio y rownd gyntaf o geisiadau i gronfa newydd sy'n cynnig cymorth i unigolion sy'n wynebu anawsterau ariannol a chyni – ein cronfa ymateb brys i unigolion. Bydd canllawiau ymgeisio’r gronfa hon a dogfen gwestiynau allweddol yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan dydd Iau 9 Ebrill.

O ddydd Mawrth 21 Ebrill 2020 ymlaen byddwn ni’n agor cynllun arall – cronfa ymsefydlogi i sefydliadau.

Ddydd Gwener 29 Mai 2020 byddwn ni’n agor cronfa ymsefydlogi i unigolion.

Bydd manylion pellach ynghylch yr elfennau rheini o’n cronfa yn cael eu cyhoeddi yn nes at ddyddiad agor ceisiadau am y grantiau rheini.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ynghylch y gronfa yma.