Rydym yn chwilio am ddau Artist Cyswllt allblyg ac angerddol i ymuno â’r cwmni yn rhan amser o fis Ebrill 2025 am gyfnod o 7 mis. Yn ystod yr amser hwn byddwch yn datblygu eich prosiect creadigol eich hun gyda chymorth Cyd-Gyfarwyddwyr Artistig Papertrail, Jonny Cotsen a Bridget Keehan ac yn cyfrannu tuag at gyfeiriad creadigol Papertrail.
Amdanom Papertrail
Ein nod ydy darganfod straeon sydd heb eu clywed a’u cyflwyno i gynulleidfaoedd mewn ffyrdd gafaelgar. Mae pob cynhyrchiad yn gyfuniad o ysgrifennu unigryw a llwyfannu anturus. Mae hygyrchedd creadigol wrth wraidd ein gwaith yn ogystal a’n dull ‘preswyl’ i greu prosiectau. Rydym yn gweithio yn agos gyda chymunedau i ddod o hyd i’r stori sydd angen ei chlywed. Rydym yn ymroddedig i greu gwaith cynhwysol a dyfeisgar sydd yn adlewyrchu lleisiau amrywiol. Ein nod ydy grymuso artistiaid i greu theatr arloesol sydd yn herio safbwyntiau ac yn cysylltu gyda chynulleidfaon Cymru a thu hwnt.
HYSBYSEB BSL (7 minud)
HYSBYSEB SAIN (4 minud)
Amdano chi.
Rydym yn awyddus i gefnogi dau artist ‘canol-gyrfa’ o Gymru neu wedi eu lleoli yng Nghymru sydd yn chwilio am gyfle i ddyrchafu eu hymarfer, dysgu sgiliau newydd a chyfrannu yn greadigol i waith Papertrail. Bydd ganddo chi brofiad mewn ysgrifennu ac/neu ddyfeisio theatr ond angen y gefnogaeth i fynd gam ymhellach gyda’ch gwaith.
Byddwch yn meddu ar:
● Brofiad o greu theatr, ysgrifennu, perfformio, dyfeisio ac/neu gyfarwyddo.
● Angerdd i rymuso lleisiau sydd yn cael eu tangynrychioli a chreu celfyddyd cynhwysol.
● Sgiliau cyfathrebu ac hwyluso ardderchog, gyda’r gallu i ymgysylltu gyda chyfranogwyr o bob gallu a chefndir.
● Brwdfrydedd am waith Papertrail.
Byddwch yn derbyn:
Ffi o £5,950 am 35 diwrnod wedi eu gwasgaru dros 7 mis
Mentoriaeth creadigol gan Bridget a Jonny
Cyfle i rannu a datblygu sgiliau newydd
Cyfle i weithio ar brosiect Papertrail
Cyfle i ddatblygu syniad creadigol newydd a chael cefnogaeth i ddatblygu’r syniad hwnnw.
Sut i ymgeisio
I ymgeisio, anfonwch os gwelwch yn dda:
1. Eich CV (dim mwy na 2 dudalen) – gan gynnwys dolen i’ch gwaith/gwefan.
2. Enghraifft o waith diweddar – gall hwn fod yn gysyniad cynhyrchiad (uchafswm o 5 tudalen) neu enghraifft o sgript (uchafswm o 8 tudalen) neu ddolen i ffilm fer. Unrhywbeth sydd yn eich barn chi yn cynrychioli eich llais creadigol orau.
3. Datganiad i gydfynd a’r cais (dim mwy na 2 dudalen/ cyfanswm o 5 munud) – yn dweud wrthym:
• am eich gwaith a’r hyn sydd yn eich cymell i greu
• pam fod ganddo chi ddiddordeb gweithio gyda Papertrail
• beth yn eich barn chi y bydde chi’n ei elwa a beth fydda chi’n ei gyfrannu fel Artist Cyswllt.
Rydym yn ymroddedig i ddileu rhwystrau i ymgeisio ac yn croesawu ceisiadau mewn unrhyw fformat, gan gynnwys:
- Dogfennau ysgrifenedig
- Recordiad fidio neu sain
- Ceisiadau BSL
Os oes anghenion penodol neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch â: contact@papertrail.org.uk
Anfonwch eich cais i contact@papertrail.org.uk erbyn 12yh dydd Gwener Mawrth 21ain. Bydd ymgeiswyr a’r restr fer yn cael eu gwahodd i gyfarfod cychwynnol ddydd Gwener Mawrth 28ain.
Hygyrchedd a Chynhwysiad
Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o gymunedau sydd yn cael eu tangynrychioli yn y gweithle celfyddydol, yn enwedig wrth ystyried anabledd, dosbarth ac ethnigrwydd, a phobl sydd a phrofiad bywyd sydd yn adlewyrchu y cymunedau rydym yn gweithio â nhw.