Contractwr hunangyflogedig / Cyfnod penodol o 2 flynedd.

Swydd Llywodraeth Cymru sy’n cael ei chontractio gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cytundeb:

 

£60,899 – £77,553 y flwyddyn (contractwr hunangyflogedig /  cyfnod penodol o 2 flynedd)

Bydd Cyfarwyddwr y Prosiect yn arwain ar faterion gweithredol a strategol mewn perthynas â'r prosiect newydd a noddir gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Oriel Genedlaethol Celf Gyfoes i Gymru.

Dyma gyfle amlwg sy'n cynnwys rheoli rhanddeiliaid pwysig mewn perthynas â'r llywodraeth a phartneriaid allweddol wrth gyflawni’r gwaith gan gynnwys sefydliadau cenedlaethol eraill, a sector y celfyddydau cyfoes yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Bydd Cyfarwyddwr y Prosiect yn rhoi arweiniad i Fwrdd y Prosiect wrth gyflwyno'r prosiect cenedlaethol cyffrous hwn sy'n cynnwys rhwydwaith o orielau a ddosberthir ar draws Cymru gyfan, brand newydd sydd â phroffil rhyngwladol, llwyfannau digidol a fydd yn ategu’r orielau a datblygu safle angor newydd.  

Bydd gofyn i Gyfarwyddwr Prosiect yr Oriel Genedlaethol Celf Gyfoes i Gymru weithredu'n hyderus ar lefel uwch, gan weithio ar y cyd â'r uwch dimau arwain ar draws y partneriaid cenedlaethol a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, gan wneud penderfyniadau gweithredol ar lefel uwch i Fwrdd Prosiect yr Oriel Genedlaethol Celf Gyfoes i Gymru.

Bydd Cyfarwyddwr y Prosiect yn arwain y gwaith o gyflwyno a gweithredu Cynllun Prosiect yr Oriel Genedlaethol Celf Gyfoes i Gymru gan sicrhau bod rheolaeth effeithiol o gyllid, adnoddau a phobl a sicrhau bod busnes prosiect yr Oriel Genedlaethol Celf Gyfoes i Gymru yn cael ei reoli mewn modd atebol a phriodol.

Dyddiad cau:                     Hanner dydd ar 10 Mawrth 2023

Cyfweliadau:                      I’w cadarnhau

 

Os ydych yn dymuno cael gwybod rhagor am y swydd neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â richard.nicholls@celf.cymru

Dylech ymgeisio drwy gyflwyno CV a llythyr esboniadol byr (dim rhagor na dwy ochr o A4) sy’n mynd i'r afael â gofynion y swydd, ynghyd â manylion cyswllt dau ganolwr a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, fel ar ffurf nodyn llais neu fideo yn yr Arwyddeg, cysylltwch â ni'n gyntaf.

Dylid anfon ceisiadau at: richard.nicholls@celf.cymru erbyn hanner dydd ar 10 Mawrth 2023.

Rydym ni’n annog a chroesawu'n gynnes geisiadau gan bobl sy’n ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a chan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae ceisiadau'n cael eu croesawu yn Gymraeg neu yn Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni chaiff ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sydd wedi'u cyflwyno yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael eu dewis ar gyfer swyddi gwag ar gownt eu haddasrwydd ar gyfer y swydd yn unig.