Teitl y Swydd: Cyfarwyddwr Oriel - Canolfan Grefft Rhuthun
Graddfa: 11 £49,764
Cwmni: Hamdden Sir Ddinbych Cyf.
Adrodd i: Pennaeth Asedau a Chydymffurfiaeth yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf.

Pwrpas y Swydd:

Arwain, cyfarwyddo a datblygu gweledigaeth artistig Canolfan Grefft Rhuthun, gan lunio a goruchwylio’r gwaith o gyflwyno ei rhaglen artistig i gyflawni’r weledigaeth hon trwy amrywiaeth gytbwys o arddangosfeydd mewnol a theithiol o Gelf Gymhwysol. Sicrhau bod y Ganolfan yn parhau i fod yn arweinydd mewn crefft gyfoes ac yn atyniad diwylliannol allweddol i ymwelwyr, gan alinio â nodau Hamdden Sir Ddinbych Cyf a’i fudd-ddeiliaid.

Bod yn rhan o Hamdden Sir Ddinbych Cyf:

Yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf, rydym yn blaenoriaethu datblygiad ein haelodau tîm amlsgil, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a gwella sgiliau. Rydym wedi ymrwymo i
gefnogi a gwobrwyo ein gweithwyr diwyd. Mae cydbwyso cyfrifoldebau craidd gyda gwelliant adrannol a blaenoriaethau yn allweddol i lwyddiant ein cwmni.

Amdan yr Canolfan Grefft Rhuthun:

Mae Canolfan Grefft Rhuthun wedi'i thrawsnewid yn sylweddol, gan wella ei harddangosfeydd, ei rhaglenni addysgol, a'i chyfleusterau cyhoeddus, gan gynnwys orielau, gofod addysg, stiwdios artistiaid, bloc ymwelwyr, ac ardal adwerthu. Wedi’i
chydnabod fel prif ganolfan celfyddydau cymhwysol Cymru, mae’n cynnig rhaglen o’r radd flaenaf o arddangosfeydd Celf Gymhwysol, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Cyngor Crefftau. Mae’r Ganolfan hefyd yn cyfrannu at faes y Celfyddydau Cymhwysol drwy addysg, cynadleddau, cyhoeddiadau, digwyddiadau cenedlaethol a phrosiectau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru fel CELF –
prosiect oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru. Mae gofod manwerthu o safon yn cynnwys gwaith gan wneuthurwyr a dylunwyr dethol, sydd ar gael i'r cyhoedd eu prynu.

https://ruthincraftcentre.org.uk/?lang=cy 

Pecyn Swydd llawn ar gael ar y ddolen gwefan isod

Dyddiad cau: 05/05/2025