Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn awyddus i benodi Cyfarwyddwr Gweithredol (a Chyd Brif Weithredwr) sy’n gallu cynnig ysbrydoliaeth a gweledigaeth i’n harwain ymlaen i’r bennod nesaf.

Mae’r rôl barhaol gyffrous hon yn galw am unigolyn deinamig sydd â sgiliau arweinyddiaeth cryf a chymhellol i gefnogi a rheoli timau, ynghyd â phrofiad llwyddiannus o eiriolaeth busnes, cynllunio a goruchwylio ariannol, AD, llywodraethu, cynhyrchu a mynd ar daith, codi arian, a chyfathrebu.

Byddwch yn gallu cynnig meddylfryd ‘darlun mawr’, angerdd dros greadigrwydd a chynhwysiant, a’r arbenigedd mewn arweinyddiaeth i allu helpu i lywio sefydliad beiddgar sy’n barod ar gyfer y dyfodol.

Mae mwy i’r bartneriaeth hon na rhedeg cwmni yn unig. Mae hefyd yn cynnwys cyd-awduro yr hyn y gall cwmni dawns cenedlaethol fod, a’r hyn y dylai fod, nawr ac yn y dyfodol.

Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r cryfder sy’n dod gydag amrywiaeth. Rydym yn gweithio’n galed i hyrwyddo cydraddoldeb a herio gwahaniaethu. Oherwydd ein bod am adlewyrchu'r gymdeithas rydym yn byw a gweithio ynddi, rydym yn croesawu'n arbennig, geisiadau gan bobl f/Fyddar, pobl anabl a rhai o’r Mwyafrif Byd-eang.

Dysgwch fwy a gwnewch gais yn https://ndcwales.co.uk/cy/Gyfarwyddwr-Gweithredol

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 13 Awst 2025, 12:00 Hanner dydd

Cofrestrwyd fel Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant yng Nghymru a Lloegr o dan rif 1672419

Cofrestrwyd fel Elusen yng Nghymru a Lloegr o dan rif 326227 
 

Dyddiad cau: 13/08/2025