Nod y rôl lawrydd hon yw sicrhau bod ymgysylltu a chydlynu llwyddiannus yn rhan o weithgarwch y prosiect ar raglen sgiliau a hyfforddiant pwrpasol Ffilm Cymru yng Nghasnewydd, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Casnewydd.
Teitl: Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol Casnewydd (Llawrydd)
Adran: Sgiliau a Hyfforddiant
Prosiect: Troed yn y Drws, Casnewydd
Yn adrodd i: Rheolwr Partneriaeth (Cymunedau)
Cyfnod: 1af Chwefror 2024 - Tachwedd 2024 (10 mis)
Cyflog: £200 y diwrnod yn cynnwys TAW (x 75 diwrnod Chwefror-Tachwedd 2024) = £15,000
Amserlen Dalu: Telir yn fisol drwy anfoneb wedi’i chyflwyno i Ffilm Cymru Wales.
Disgwyliwn y byddwch yn gweithio 7-8 diwrnod y mis rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd yn dibynnu ar anghenion y prosiect, a bydd gofyn gweithio mwy o ddiwrnodau ym mis Medi 2024 i weithio yn y Labordy Sgiliau Dros Dro.
Gweithle’r Prosiect: Gweithio gartref ac ar leoliad yng Nghasnewydd, gyda mynediad i swyddfa Ffilm Cymru yng Nghaerdydd pan fo angen. Y disgwyl yw i’r gwaith gael ei gyflawni mewn ffordd gyfunol, o bell ac wyneb yn wyneb.
Dyddiad Cau: Dydd Mawrth, 2il Ionawr, canol dydd.
Dyddiadau’r Cyfweliadau: Dydd Iau yr 11fed o Ionawr.
Lleoliad y Cyfweliadau: Canol Casnewydd (lleoliad i gael ei gadarnhau).
SWYDD-DDISGRIFIAD CYDLYNYDD YMGYSLLTU CYMUNEDOL CASNEWYDD
Sut i wneud cais
Credwn mewn sector sy’n gweithio i bawb ac rydym yn angerddol am ehangu mynediad i'r sector sgrin.
Oni bai ein bod wedi cytuno gyda chi ar fformat gwahanol i’r cais, anfonwch e-bost gyda CV a llythyr eglurhaol i footinthedoor@ffilmcymruwales.com yn amlinellu eich profiad a'ch sgiliau yn erbyn y rhai sydd wedi’u hamlinellu yn y cais hwn. Defnyddiwch y pwnc: CYDLYNYDD YMGYSYLLTU CYMUNEDOL CASNEWYDD.
Mynediad
Byddwn yn cynnig cyfweliad awtomatig i bob ymgeisydd sy'n bodloni ein Meini Prawf gofynnol ar gyfer y rôl ac sy'n arddel hunaniaeth siaradwyr Cymraeg rhugl, Pobl y Mwyafrif Byd-eang, neu bobl F/byddar, trwm eu clyw, Anabl neu niwroamrywiol.
Yn achos ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, er enghraifft unigolion sy'n F/fyddar, yn drwm eu clyw, yn Anabl, yn niwroamrywiol, a phobl sydd wedi colli eu golwg, mae cymorth ar gael i gyflwyno cais. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut gallwn ni helpu. Er enghraifft, gallwn dalu costau dehonglydd BSL ar gyfer cyfarfod â ni cyn gwneud cais, cymorth ysgrifennu i ymgeiswyr dyslecsig, neu gytuno ar fformatau gwahanol ar gyfer gwneud cais fel ceisiadau fideo neu ddec sleidiau. Cawn ein harwain gennych chi.
Cysylltwch â Siobhan Brennan siobhan@ffilmcymruwales.com i drafod eich gofynion cyn gwneud cais.