Dyma swydd lawrydd ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru sy'n cael ei hwyluso gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Contract llawrydd cyfnod penodol am 18 mis
Ffi: £40,000 gyda disgwyliad o ymrwymiad wythnosol o 30-35 awr
Lleoliad: hyblyg – gallai gwaith ddigwydd gartref a mynd yn achlysurol i unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd, Bae Colwyn neu Gaerfyrddin.
Am y swydd
Bydd y Cydlynydd yn darparu rheolaeth a chefnogaeth bob dydd ar gyfer prosiect newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol newydd i Gymru. Bydd yn darparu gweinyddiaeth prosiect lefel uchel i Gyfarwyddwr y Prosiect a'r Cadeirydd ac yn rhagweithiol wrth gefnogi cyfathrebu prosiect da ymhlith ystod o randdeiliaid.
Mae’r cyfrifoldebau’n amrywio ac yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cefnogi pob agwedd ar Fwrdd Prosiect Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Bydd deiliad y swydd yn paratoi ac yn dosbarthu papurau ac agendâu ar gyfer Bwrdd y Prosiect, gan gymryd cofnodion y cyfarfodydd, diweddaru dogfennau'r Bwrdd a threfnu cyfarfodydd ar-lein a chymysg pan fo angen.
Rhaid gweithio'n hyderus gyda rhanddeiliaid, aelodau o'r Bwrdd a phartneriaid i gyflawni camau gweithredu sy'n codi o gyfarfodydd Bwrdd y Prosiect a’r is-grwpiau eraill sy’n gysylltiedig.
Bydd gofyn i'r Cydlynydd Prosiect Llawrydd weithio i amserlen a dyddiadau cau’r prosiect a chyda rhywfaint o ymreolaeth o ddydd i ddydd. Yn ogystal, bydd yn darparu cymorth monitro prosiect yn unol â gofynion Cyfarwyddwr y Prosiect, yn trefnu holl waith papur sy'n gysylltiedig â'r prosiect ac yn cefnogi gallu'r prosiect i sicrhau bod llif y gwaith yn cadw at yr amserlen benodedig.
Amdanoch chi
Bydd gennych sgiliau TG a gweinyddol datblygedig, sgiliau cyfathrebu da a phrofiad o drefnu cyfarfodydd bwrdd a chymryd cofnodion.
Y Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol byr (dim mwy na dwy ochr A4) sy'n trafod gofynion y swydd, ynghyd â manylion cyswllt ar gyfer dau eirda a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, fel nodyn llais neu fideo Arwyddeg, cysylltwch â ni yn gyntaf.
Dylid anfon CV a llythyr eglurhaol at: ad@celf.cymru
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: hanner dydd 26 Hydref 2023
Cyfweliadau: yr wythnos sy’n dechrau 6 Tachwedd 2023
Dyddiad dechrau: (tua) Rhagfyr 2023
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg a byddwn yn defnyddio eich dewis iaith wrth gyfathrebu â chi. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.