Heddiw, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor ei Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru ar gyfer ceisiadau. Fel rhan o gronfa argyfwng £53 miliwn Llywodraeth Cymru, bydd y Cyngor yn buddsoddi £27.5 miliwn i helpu sefydliadau i oroesi wrth iddynt wynebu pwysau ariannol y coronafeirws.

Mae'r gronfa wedi ei rhannu i ddwy ran:

Coronafeirws: Cymorth Refeniw i Sefydliadau Celfyddydol

Coronafeirws: Cymorth Cyfalaf i Sefydliadau Celfyddydol

Mae'r gronfa'n cael ei gweinyddu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Bydd y Cyngor yn rhoi £25.5 miliwn o arian refeniw a £2 miliwn o arian cyfalaf i sefydliadau celfyddydol. Gall y sefydliadau hyn fod yn rhai dielw neu fasnachol ond rhaid iddynt ddangos eu bod yn cynnig gweithgarwch celfyddydol sy'n hygyrch i bobl Cymru a bod y coronafeirws wedi effeithio arnynt yn sylweddol. Diben y gronfa yw cynnal sefydliadau sy'n wynebu’r bygythiad o gau drwy eu helpu i ailddechrau gweithio yn 2021 a’r tu hwnt.

Bydd disgwyl i'r rhai sy'n cael cymorth o'r gronfa roi rhywbeth yn ôl i'r cyhoedd – eu contract diwylliannol gyda phobl Cymru. Nod y contract diwylliannol yw:

  • annog sefydliadau i drawsnewid eu cyrhaeddiad ac effaith eu gwaith yn y dyfodol
  • gwella amrywiaeth eu bwrdd a'u gweithlu
  • darparu cyfleoedd newydd i artistiaid llawrydd
  • ymrwymo i gyfraddau cyflog teg
  • gwella effaith amgylcheddol eu gwaith
  • defnyddio arian cyhoeddus at ddiben diwylliannol/cymdeithasol wrth ymsefydlogi

Heddiw dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Roedd y cyhoeddiad bythefnos yn ôl o gronfa adfer diwylliant gwerth £53 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y celfyddydau i’n llesiant cenedlaethol a’n heconomi greadigol. Bydd yr arian yn helpu artistiaid a sefydliadau celfyddydol i rwystro’r hwch rhag mynd drwy’r siop. Rhaid inni gynnal y celfyddydau fel crëwyr llawenydd, dychymyg a chydlyniant cymdeithasol. Bydd arnom eu hangen yn ddirfawr wrth inni symud ymlaen o'r pandemig."

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Dyma'r rhandaliad diweddaraf mewn pecyn parhaus o gymorth ariannol i amddiffyn bywyd diwylliannol Cymru. Mae'n amlwg y bydd ymbellhau cymdeithasol yn golygu bod y celfyddydau yn gyffredinol, a pherfformio’n enwedig, yn debygol o fod yn un o'r meysydd olaf i ddychwelyd atom ar ôl y cyfnod cloi. Mae'r arian yn fodd i achub sefydliadau celfyddydol Cymru nes y gallant ein croesawu’n ôl i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.

"Ond nid yw hyn yn fater o droedio dŵr yn unig nes inni ailafael yn hen ogoniant y  gorffennol. Y wers o’r coronafeirws yw bod yn rhaid inni greu rhywbeth gwell a chryfach a bod yn fwy cynhwysol. Nid amddiffyn yn unig yw ein nod yma. Rhaid inni greu dyfodol newydd lle mae gweithgarwch diwylliannol yn cyrraedd rhagor o bobl ledled Cymru."

Bydd y Cyngor yn rheoli’r arian ar gyfer:

  • theatrau, canolfannau celfyddydol a neuaddau cyngerdd
  • orielau
  • sefydliadau sy'n cynhyrchu ac yn teithio eu gwaith celfyddydol
  • sefydliadau sy'n cynnig gwaith celfyddydol cyfranogol

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli’r arian ar gyfer:

  • lleoliadau cerddorol ar lawr gwlad
  • safleoedd treftadaeth
  • amgueddfeydd, llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau lleol
  • digwyddiadau a gwyliau
  • sinemâu annibynnol
  • gweithwyr creadigol llawrydd unigol
     

Mae cronfa dan reolaeth y Cyngor yn agor i geisiadau ddydd Llun 17 Awst a'r dyddiad cau yw 5pm ddydd Mercher 9 Medi 2020. Bydd manylion y cronfeydd a reolir gan Lywodraeth Cymru ar gael yn fuan, a bydd gwiriwr cymhwyster ar-lein ar gael a fydd yn caniatáu i gwmnïau baratoi ceisiadau cyn bod y gronfa yn agor.

 

Manylion

  1. Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus swyddogol sy'n gyfrifol am ariannu a chefnogi celfyddydau Cymru.
  2. Contract diwylliannol - bydd disgwyl i'r rhai sy'n derbyn arian o’r gronfa ymrwymo i gontract diwylliannol Llywodraeth Cymru. Gweledigaeth y Llywodraeth yw Cymru sy'n deg, ffyniannus a hyderus, sy’n gwella ansawdd bywyd ei phobl ledled y wlad. Nod y contract diwylliannol yw annog ymgeiswyr i fabwysiadu ymrwymiad newydd i sicrhau bod arian cyhoeddus yn mynd at ddiben cymdeithasol. Bydd hyn yn adeiladu ar gontract economaidd presennol Llywodraeth Cymru. Dyma enghreifftiau o’r gwaith y byddwn ni’n disgwyl i ymgeiswyr ei gynnwys yn eu cynlluniau at y dyfodol:
    • Gwaith teg – sicrhau cyfraddau cyflog priodol a gwneud y gorau o gyfleoedd i ymgysylltu â gweithwyr llawrydd a'u cefnogi
    • Amrywiaeth bwrdd a gweithlu – cynyddu, drwy eu holl sefydliad a’u gwaith, ymwneud â phobl dduon, pobl liw nad ydynt yn ddu, pobl fyddar, pobl anabl a phobl â nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg
    • Cefnogi mentrau ehangach gan y staff a gadwyd (er enghraifft, olrhain cysylltiadau ym mentr "Profi, Olrhain, Amddiffyn")
    • Cefnogi mentrau'r celfyddydau ac iechyd, gan gynnwys presgripsiynu cymdeithasol
    • Cynaliadwyedd amgylcheddol - lleihau effaith eu gwaith ar yr amgylchedd
  3. Mae'r gronfa adfer diwylliannol yn cael ei gweinyddu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. O'r £53 miliwn, bydd y Cyngor yn dosbarthu £25.5 miliwn o arian refeniw a £2 miliwn o arian cyfalaf i sefydliadau celfyddydol y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt. Mae rhagor o fanylion am y gronfa yma.
  4. Cronfa Wytnwch y Celfyddydau gan Gyngor Celfyddydau Cymru - roedd ar waith rhwng Ebrill a Gorffennaf 2020 a chafodd ei hariannu'n rhannol gan y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30,000,000 yn cael ei godi bob wythnos ledled Prydain at achosion da. Bydd llawer o’r arian yn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ystod y coronafeirws.