Mae Queertawe eisiau comisiynu artistiaid a gweithwyr creadigol yn Abertawe, ar draws pob ffurf ar gelfyddyd, sydd â dealltwriaeth o hunaniaethau LHDTCRh+ trwy brofiadau bywyd neu gynghreiriaeth. Rydyn ni eisiau eich comisiynu i greu gwaith a fydd yn cael ei gynnwys mewn digwyddiad creadigol ar draws y ddinas ym mis Rhagfyr 2025. 

Rhaid i bob comisiwn ymateb i’r thema Perthyn Cwiar

Gallai fod yn theatr, yn gelfyddyd weledol, yn symud, yn gabaret, yn gerddoriaeth, yn ffilm, yn ffasiwn, yn ffotograffiaeth a phob peth yn y canol! 

Telir ffi o £1500 am bob comisiwn. Rhaid i’r ffi hon gynnwys yr holl gostau teithio a llety ac unrhyw ddeunyddiau sy’n angenrheidiol ar gyfer y prosiect. 

Nid oes unrhyw ddisgwyliad o ran maint, hyd neu raddfa’r comisiynau hyn. Rydyn ni’n eich annog chi i feddwl am greu rhywbeth y mae’n bosibl ei wireddu o fewn y gyllideb hon yn eich barn chi. 

Os hoffech siarad â rhywun am unrhyw gwestiynau neu bryderon am y briff hwn, yna mae croeso i chi gysylltu â Cassidy trwy anfon neges e-bost i queertawe@messupthemess.co.uk 

Gwnewch gais trwy'r ddolen isod.

Rydyn ni’n annog ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd diwylliannol gwahanol, artistiaid anabl a/neu’r rheiny â phrofiad bywyd o fywyd LHDTCRh+. 

Anfonwch eich datganiadau o ddiddordeb erbyn 10am ar 26 Chwefror. 

Dyddiad cau: 26/02/2024