Artist Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol ar gyfer prosiect cyd-ddylunio cymunedol Dyfi ynghylch addasu arfordirol

"Mae celf yn adrodd straeon pwerus. Gall artistiaid adrodd straeon cymunedau y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt, heriau y mae ymgyrchwyr yn eu hwynebu, neu'r posibilrwydd o ddyfodol mwy cynaliadwy – drwy baentiadau, cerfluniau, ffotograffau, neu hyd yn oed gelf perfformio. Gall y straeon hyn ddangos y broblem o safbwynt dynol a’i gwneud yn berthnasol.”

(Muhammed Badamasi ac Idongesit Amba, 2022)

Rydym yn chwilio am artist i gefnogi a datblygu archwiliad creadigol a chydweithredol er mwyn helpu i gyflwyno ein llawlyfr addasiadau arfordirol digidol a ddylunnir ar y cyd. 

Mae Tir Canol wedi bod yn gweithio gyda chymuned Dyfi ers tymor yr hydref 2024 i gyd-ddylunio llawlyfr a fydd yn helpu aelodau'r gymuned i ddeall y newidiadau posibl i'r arfordir yn sgil y newid yn yr hinsawdd, a'r dulliau a ddefnyddir i reoli'r newid. Gweledigaeth y gwaith hwn yw grymuso cymunedau y mae newid hinsawdd yn effeithio arnynt, a rhoi'r wybodaeth a'r pŵer iddynt ymgysylltu ag ymgyngoriadau a phenderfyniadau sy'n effeithio ar eu tirwedd. 

Mae ein Swyddog Arfordir gwych, a fydd yn mynd ar absenoldeb mamolaeth ddiwedd mis Medi, eisoes wedi dechrau ar y gwaith hwn. Er mwyn parhau i gynnal a datblygu’r cysylltiadau a ffurfiwyd yn ystod y broses hyd yma, rydym yn chwilio am Artist Ymgysylltu â'r Gymuned i gamu i’r adwy a sicrhau parhad yn y berthynas â'r gymuned. 

Rydym yn disgwyl i'r Artist Ymgysylltu â'r Gymuned gefnogi nodau ehangach y prosiect, gan alluogi'r dylunwyr a thîm Tir Canol i gryfhau'r gwaith gydag ardal a chymuned Dyfi. 

Hoffem i'r contract ddod i rym ddechrau mis Awst i roi amser i'r Artist ymgynefino â’r tîm a'r gymuned a dod yn rhan o'r grŵp cyd-ddylunio, gan ddefnyddio offer a phrosesau creadigol yn ystod y cam hwn o'r gwaith. 

Bydd cyfleoedd i'r Artist Ymgysylltu â'r Gymuned gymryd rhan yn y gweithdai cyd-ddylunio lle caiff y llawlyfr ei ddylunio. Ar ôl cwblhau'r holl weithdai yn yr hydref, bydd cyfnod o gasglu gwybodaeth ynghyd ar gyfer y llawlyfr digidol ac asedau eraill.

Yn ogystal â mynychu'r gweithdai cyd-ddylunio, rydym yn rhagweld y bydd yr Artist Ymgysylltu â'r Gymuned yn treulio amser gyda chymuned Dyfi, yn ymgysylltu, yn gwrando ac yn myfyrio ar eu cyd-destun hinsawdd, gan dreulio’r rhan fwyaf o'r amser yn y lleoliad rhwng mis Awst a mis Ionawr. 

Canlyniadau Disgwyliedig

Nod y prosiect hwn yw cyflawni'r canlyniadau allweddol canlynol:

  • Grymuso’r Grŵp Cyd-ddylunio: Bydd aelodau'r grŵp cyd-ddylunio yn deall yn glir bod angen llawlyfr addasiadau dan arweiniad y gymuned, ac yn gallu egluro hyn.
  • Codi Ymwybyddiaeth yn y Gymuned: Bydd cymuned ehangach Dyfi yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r rhagolygon ar gyfer dyfodol eu hardal, ochr yn ochr â strategaethau posibl i leihau'r effeithiau negyddol neu addasu iddynt.
  • Adnoddau a Grym i'r Gymuned: Bydd gan gymuned Dyfi fynediad at adnodd gwerthfawr sy'n eu grymuso i ddeall ac ymateb yn effeithiol i gynigion y llywodraeth ar gyfer cynlluniau addasu arfordirol yn y dyfodol.
  • Rôl Ganolog yr Artist: Nid creu gwaith celf penodol yw rôl yr artist. Yn hytrach, bydd yn rhan ganolog o’r broses o archwilio ffyrdd effeithiol o gyfleu gwybodaeth am newid hinsawdd i gynulleidfaoedd amrywiol. Bydd hefyd yn hwyluso'r gwaith o gynllunio addasiadau cydlynol dan arweiniad y gymuned drwy brosesau creadigol a chynhwysol.

Amserlen:

Rydym yn chwilio am Artist sy'n gallu ymrwymo i 35 diwrnod yn ardal Dyfi rhwng mis Awst 2025 a mis Ionawr 2026. 

Dyddiadau allweddol y gweithdy 18fed Awst, 8fed Medi, 2il Hydref

Gofynion

Byddem yn disgwyl i'r Artist feddu ar sgiliau cyfathrebu da yn Gymraeg ac yn Saesneg i gyflawni'r rôl hon. Rydym yn chwilio am artistiaid sydd â chysylltiad clir ag ardal Dyfi, a dealltwriaeth o'r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw.

Cyllideb

£300 y dydd x 35 diwrnod = £10,500

Deunyddiau = £1000

Cyllideb teithio a chynhaliaeth i'w thrafod 

Sut mae gwneud cais:

  • Llythyr eglurhaol neu ffilm fer yn nodi
  • Pam rydych chi’n awyddus fod yn rhan o'r prosiect hwn
  • Methodoleg glir sy'n amlinellu sut byddech yn mynd ati ac yn datblygu perthynas â'r gymuned
  • CV ac enghreifftiau o waith blaenorol
  • Manylion canolwr

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 12pm ar 28 Gorffennaf

Cyfweliadau ar 1 Awst 

Anfonwch geisiadau i Reolwr y Rhaglen Tir Canol, Alice Briggs 

Alice.briggs@rspb.org.uk
 

Dyddiad cau: 28/07/2025