Mae Opera Canolbarth Cymru yn chwilio am swyddog codi arian i ymuno â'u tîm bach am chwe mis. Diolch i grant gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Cyngor Sir Powys, mae Opera Canolbarth Cymru yn chwilio am rywun i'w helpu i lunio a gweithredu strategaeth codi arian, sy'n canolbwyntio ar fwrw ymlaen â gwaith y cwmni am y tair blynedd nesaf. Rydym yn rhagweld y byddai hyn yn cynnwys rhwng diwrnod a dau ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o bedwar i chwe mis. Gallai hon fod yn swydd gyflogedig am gyfnod penodol, yn swydd ran-amser neu gellid ei gwneud yn llawrydd. 

Os hoffech chi fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost yn cynnwys manylion am eich profiad, pa bryd rydych chi ar gael (sylwer bod yn rhaid defnyddio'r cyllid erbyn Rhagfyr 2024) a'ch cyfradd fesul diwrnod neu ddisgwyliad cyflog at y Cadeirydd, Gareth Williams gareth3obc@aol.com, a chopi i admin@midwalesopera.co.uk erbyn 7 Mehefin 2024 fan bellaf.

 

Dyddiad cau: 07/06/2024