Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol

Mae dyddiadau cau treigl wedi cael eu hail-gyflwyno ar gyfer y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Mae hyn yn golygu y gall ceisiadau cael eu cyflwyno unrhyw bryd, gyda phenderfyniad ar eich cais dim hwyrach na 8 wythnos ar ôl ei gyflwyno. Ceir rhagor o wybodaeth yng nghanllawiau'r gronfa sydd ar gael trwy’r ddolen isod.

Diben y gronfa yw: 

  • Cefnogi’r broses o ddatblygu syniadau, cydweithio a rhwydweithiau rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a phartneriaid rhyngwladol.
  • Rhannu profiadau a sgiliau drwy’r celfyddydau mewn cyd-destun byd-eang.
  • Codi proffil Cymru a’i chysylltiadau drwy’r celfyddydau yn fyd-eang. 

Darllenwch ein hastudiaethau achos Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol yma:
Gwarcheidwaid y Biosffer 2050 - Playframe
Cynhadledd RESEO Paris - Operasonic

 

Cronfa Arddangos Ryngwladol Sefydliad PRS

Os ydych yn artist, band, cyfansoddwr neu gynhyrchydd, ac wedi cael eich gwahodd i chwarae gŵyl neu gynhadledd arddangos ryngwladol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid drwy Gronfa Arddangos Ryngwladol Sefydliad PRS mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Os ydych yn gymwys ar gyfer y llwybr ariannu hwn, ni chewch wneud cais i'r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr pa lwybr ariannu sydd orau i chi.

 

Cyfle Symudedd Gogledd Ewrop (NEMO) 

Grant i artistiaid yn y gwledydd Nordig, y DU ac Iwerddon 

Mae NEMO (Cyfle Symudedd Gogledd Ewrop) yn rhaglen beilot ar gyfer symudedd a chyfnewid artistig, a gefnogir gan Nordic Culture Fund ac asiantaethau ariannu celfyddydau Iwerddon, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Nod y rhaglen yw meithrin cydweithio rhyngwladol, cryfhau rhwydweithiau artistig ar draws y rhanbarth a chefnogi mwy o artistiaid a gweithwyr proffesiynol celfyddydol i ymgysylltu â phartneriaid rhyngwladol.  

Mae'r alwad yn canolbwyntio ar artistiaid unigol ac ymarferwyr celfyddydol yng nghyfnodau cynnar eu gyrfaoedd, gan adlewyrchu cydnabyddiaeth gyffredin ymhlith y partneriaid bod gan y grŵp hwn angen penofol am gwfnogaeth a chyfleoedd ychwalegol yr yr hinsawdd bresennol.  

Mae artistiaid ac ymarferwyr celfyddydau sydd wedi’u lleoli yn y gwledydd Nordig (Denmarc, Ynysoedd Ffaro, y Ffindir, yr Ynys Las, Gwald yr Iâ, Norwy, Sweden, ac Ynysoedd Aland), yn ogystal â’r rhai yn y DU (Lloegr, Gwledydd Iwerddon, yr Alban, a Chymru) ac Iwerddon, yn gymwys i wneud cais.  

Gall artistiaid ac ymarferwyr celfyddydau yn y gwledydd Nordig wneud cais i ddatblygu partneriaeth neu gydweithrediad (e.e. gydag unigolion, grwpiau, neu sefydliadau) yn un o’r pum gwlad sy’n ffurfio’r DU ac Iweddon – ac i'r gwrthwyneb. Rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r cais fod wedi cytuno’n glit ar strwythur a chynnwys y bartneriaeth cyn cyflwyno’r cais. 

Mae cyfanswm cyllideb yr alwad yn mynd i alluogi hyd at 30 o grantiau hyd ar 75,000 DKK. Gan mai swm cyfyngedig yw hwn, mae’r trefnwyr yn disgwyl i geisiadau ganolbwyntio ar gamau cynnar partneriaeth a chydweithio. Er enghraifft: 

  • Teithio ar gyfer datblygu partneriaeth a/neu ymwchwil a datblygu yn hytrach na chostau cyd-gynhyrchu 

  • Cyfnewid gwybodaeth, gallu a phrofiad 

  • Mentoriaethau e.e. cyfnewid dulliau gweithio, traddodiadau, prosesau 

  • Adeiladu capasiti e.e. cryfnahu sgiliau, adnoddau, strwythurau (er mwyn gweithio’n rhyngwladol) 

  • Creu/dylunio cynllun peilot ar raddfa fach ar gyfer cyfweithrediad yn y dyfodol 

Gall ceisiadau fod ar gyfer gweitharedd corfforol, digidol neu hybrid mewn ymateb i amcanion y rhaglen. Dylai gwariant fod ar deithio, llety a lwfansau am amser a dreulir.  

Dyddiad cau: 15 Medi 2025 

 

On The Move: Canllaw i gyllid ar gyfer symudedd diwylliannol

Mae'r canllaw ariannu yma yn cynnwys dau fath o gyfleoedd symudedd ar gyfer artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol: ar gyfer gadael y Deyrnas Unedig a dod mewn i'r Deyrnas Unedig. Mae'r cyfleoedd ymadawol ar gyfer pobl sydd wedi'i lleoli yn y Deyrnas Unedig (pedair gwlad Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru yn ogystal â Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron Prydain a Thiriogaethau Tramor y DU) sy'n dymuno teithio y tu allan i'r wlad. Mae'r cyfleoedd sy'n dod i mewn ar gyfer pobl o wledydd eraill sydd am deithio i'r Deyrnas Unedig. 

Mae'r canllaw yn rhestru adnoddau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, cyhoeddus a phreifat. Rydym ond wedi cynnwys cyfleoedd sy'n digwydd yn rheolaidd, sy'n hygyrch ar-lein, yn gwahodd ceisiadau trwy alwadau agored, ac sy'n talu o leiaf cyfran o gostau teithio rhyngwladol. 

Cynhrchwyd y canllaw yma mewn partneriaeth gyda Gwybodfan Celf y DU, partneriaeth o aelodau o bob un o Gynghorau Celfyddydau'r DU: Arts Council England, Arts Council of Northern Ireland, Creative Scotland, a Cyngor Celfydyddau Cymru | Celfyddydau Rhyngwladol Cymru sy'n arwain y gwaith.