Dafydd Rhys, Prif Weithredwr
Mae Dafydd wedi cael gyrfa hir yn y diwydiant teledu fel cynhyrchydd cynnwys a darlledwr. Dechreuodd ei yrfa gyda HTV Cymru cyn symud i'r sector annibynol. Mae hefyd wedi cael swyddi fel Comisiynydd Golygyddol yn S4C, Cyfarwyddwr Cynnwys y sianel tan Hydref 2016, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydol Aberystwyth a Chadeirydd AM - ap digidol y sector gelfyddydol yng Nghymru 2021/22.
Dechreuodd yn y swydd hon yn Hydref 2022.
Diane Hebb, Cyfarwyddwr (Ymgysylltu â’r Celfyddydau)
Diane Hebb yw Cyfarwyddwr Ymgysylltu â'r Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n datblygu, rheoli a gweithredu strategaethau a rhaglenni gyda’r nod o gael rhagor o bobl i greu a mwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.
Ar ôl gwneud gradd mewn dawns, symudodd i Gymru i ymuno â chwmni dawns mewn addysg. Wedyn aeth yn fywiogydd a chydlynydd dawns gyda Chelfyddydau Cymunedol y Rhondda.
Ymunodd â Chyngor Celfyddydau Cymru ym 1992 ei Swyddog Dawns. Yma mae wedi ymgymryd â llawer o gyfrifoldebau:
- arwain yn strategol ym maes Cynhwysiant a Chyfranogiad
- drafftio strategaeth gydraddoldeb gyntaf y Cyngor
- cyd-ysgrifennu strategaeth gyntaf y Cyngor i bobl ifanc a’i gweithredu
Mae ei thîm presennol yn gweithio mewn sawl maes, gan gynnwys gwaith comisiwn â'r nod o ddatblygu ymgysylltiad a chydraddoldeb. Ei phrif waith yw gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnig rhaglen uchelgeisiol ac arloesol, Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau, sy’n i gefnogi ysgolion i ymbaratoi at y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Hi yw arweinydd strategol y Cyngor ym maes Adnoddau Dynol ac mae hefyd yn gyfrifol am:
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor
- datblygu cynulleidfaoedd
- datblygu lleoliadau cyflwyno Cymru
- y celfyddydau cyfranogol a chymunedol
- y celfyddydau a phobl ifanc
- dysgu creadigol
- teithio cymunedol
- Noson Allan
Mae’n angerddol am ymgysylltu â'r gymuned a'r effaith drawsnewidiol y gall y celfyddydau ei chael ar bobl a chymunedau.
Rebecca Nelson, Cyfarwyddwr (Cyllid a Gwasanaethau Busnes)
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes Cyngor Celfyddydau Cymru yw Rebecca. Mae ganddi radd dosbarth cyntaf mewn economeg o Brifysgol Manceinion ac yn gyfrifydd siartredig gyda 17 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector preifat a chyhoeddus. Mae’n arbenigydd mewn cyfrifyddu elusennol ac yn meddu ar ddiploma cyfrifyddu siartredig mewn Cyfrifo Elusennau gan Sefydliad Cyfrifwyr Cymru a Lloegr. Mae hi hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
Hyfforddodd gyda chwmni cyfrifyddu ymhlith y rhai mwyaf a symudodd yn gyflym i fod yn uwch reolwr. Llwyddodd reoli rhai o'r cleientiaid mwyaf yng Nghymru a gorllewin Lloegr gan gynnwys:
- llywodraeth ganolog
- llywodraeth leol
- iechyd
- elusennau
- addysg bellach ac uwch
- pensiynau
Mae’n arbenigo mewn sicrwydd ac wedi gweithio ym meysydd archwilio allanol a mewnol ac adrodd yn ariannol. Mae ganddi gefndir mewn sicrhau risg a llywodraethu, cynnal adolygiadau mewn sefydliadau proffil uchel a siarad mewn digwyddiadau.
Yn ei swydd bresennol hi sy’n gyfrifol am oruchwylio'r Cyngor yn strategol ac ariannol. Hi hefyd yw'r Ymddiriedolwr a enwebwyd gan y gweithwyr ar gronfa bensiwn y Cyngor sy’n gronfa rhwng sawl cyflogwr gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Lloegr a’r Alban Greadigol.
Mae wedi’i chymhwyso gyda'r Sefydliad Siartredig ym maes Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddu. Mae’n teimlo’n angerddol am gyfrifyddu a chyllid yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac am ddatblygu pobl a sefydliadau eraill. Daeth yn Gymrawd o'r Sefydliad Siartredig yn 2018 a chafodd ei hethol yn Llywydd Sefydliad Cymru ym Mawrth 2019 am ddwy flynedd.