• Dyddiad Cau: 9yb, 15.7.24 / Ffi: I’w drafod.
• Hyd y cynllun: Gorffennaf – Rhagfyr 2024
• Statws: Llawrydd
Mae Ysgolion Ffederasiwn De Cymru yn dymuno comisiynu ymarferydd creadigol, mudiad neu gwmni i gynnal cynllun sy’n hybu sgiliau llafaredd a pherfformio disgyblion drwy gomisiynu cyfres o sgriptiau amrywiol sydd yn ymwneud a materion gwahanol a ellir ei defnyddio mewn gwersi dramâu yn yr ysgol.
Dylai’r sgriptiau amrywiol hyn ddim bod yn fwy na 10 munud gyda nifer o gymeriadau amrywiol ar destunau amrywiol, pynciau llosg a sgriptiau am ddigwyddiadau nodedig yn hanes Cymru.
Dylai’r sgriptiau hyn fod yn addas i ddisgyblion Blynyddoedd 4,5 a 6 a gellir defnyddio’r sgriptiau hyn mewn gwersi drama/llafaredd.
Dyddiad cau: 15/07/2024