Dyma adeg gyffrous i ymuno â’n sefydliad. Dros y blyneddoedd diwethaf, rydyn ni wedi mabwysiadu model busnes sy’n cael ei hysbysu gan y gynulleidfa. Mae’r syniad o gymuned bellach wedi’i wreiddio yn yr holl waith rydyn ni’n ei wneud; dyma yw ein man cychwyn wrth geisio deall diwylliant, rhaglennu, y lleoliad, a phopeth arall. Rydyn ni’n ymroddedig i weithio mewn ffyrdd hirdymor a thrawsnewidiol, i sicrhau ein bod ni’n sefydliad sy’n gweithredu ar sail anghenion heddiw, ac sy’n gwneud lle ar gyfer dyfodol i bawb. 

Rydyn ni’n chwilio ar hyn o bryd am sawl unigolyn sy’n gallu cynnig dealltwriaeth a safbwyntiau newydd drwy eu profiadau byw a phroffesiynol. Mae’r ymddiriedolwyr yn rhan hanfodol o’n sefydliad ac yn cynnig mewnwelediadau hanfodol sy’n ein helpu ni i ofyn ac i ateb cwestiynau ac yn dal ni’n atebol yn ein penderfyniadau ac ymrwymiadau. 

Byddwch chi’n angerddol am gelf ac artistiaid, meithrin cydlyniant cymunedol, ac yn credu y dylai gofal a thegwch fod wrth wraidd popeth. Rydyn ni’n chwilio am bobl a all ein helpu ni i barhau i ehangu ein cyrhaeddiad, ein dylanwad a’n heffaith.

Does dim rhaid i chi fod â phrofiad blaenorol fel ymddiriedolwr na dod o gefndir celfyddydau neu ddiwylliant. Rydyn ni’n chwilio am bobl frwdfrydig ac ymroddedig sy’n credu yng ngwerth cynhenid y celfyddydau a diwylliant, ac sy’n gallu cymhwyso eu sgiliau a’u profiad er budd ein sefydliad a’n cymunedau.
 

Dyddiad cau: 14/05/2025