Cefndir

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o ddeuddeg lleoliad a ddewiswyd yn arbennig ar draws y DU i bartneru â’r National Gallery, Llundain ar gyfer prosiect i ddathlu daucanmlwyddiant yr Oriel yn 2024.

Bydd pob lleoliad partner yn derbyn campwaith o gasgliad yr Oriel ac yn curadu o’i amgylch, gan gynnwys dehongli, ymgysylltu â’r gymuned a digwyddiadau, neu arddangosfeydd. Bydd yr arddangosfeydd i gyd yn agor ar yr un pryd ar 10 Mai 2024, sef 200 mlynedd ers agor y National Gallery yn Llundain. Bydd y National Gallery yn rhoi benthyg y campwaith ‘The Stonemason’s Yard’, c. 1725 gan Canaletto i'r Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn ganolbwynt i arddangosfa arbennig.



Arddangosfa



Bydd yr arddangosfa yn adrodd hanes sut y daeth y paentiad, ymhlith trysorau eraill, i Gymru fel ‘ffoadur’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ynghyd â’r cysylltiadau artistig a thematig rhwng The Stonemasons Yard a thopograffeg Cymru, diwydiant a bywyd Cymreig.

Cyflwyno

Rydym yn chwilio am artist neu gydlynydd i weithio mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a GISDA i weithio ar brosiect cyffrous i gyd-fynd â’r arddangosfa a chyflawni prosiect creadigol gyda cymunedau ardaloedd diwydiannol gogledd Cymru (ardaloedd o amgylch Manod / Ffestiniog yn ddelfrydol).

Byddai disgwyl i'r cydlynydd gynllunio un neu gyfres o ddigwyddiadau creadigol gyda chanlyniad ffisegol neu ddigidol a phwyslais ar ysbrydoli cymunedau ac etifeddiaeth.

Hoffem estyn allan at bobl ifanc fregus rhwng 14 a 25 oed.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cyllideb o £2000 a chefnogaeth in-kind gan y Llyfrgell Genedlaethol a GISDA



Amserlen



Rhaid cynllunio’r gweithgaredd yn ystod neu cyn yr arddangosfa, sydd ymlaen rhwng 10 Mai a 7 Medi 2024.



Gwerthusiad

Mae'r prosiect hwn yn edrych am rhyngweithio ansoddol, ymgysylltu ystyrlon a gwerthuso, yn hytrach na thargedu grwpiau mawr o bobl.

Gwybodaeth am wneud cais: Cynlluniwch un neu gyfres o ddigwyddiadau neu weithgareddau creadigol sy’n ymgysylltu â chymuned/ardal wedi’i thargedu ac sy’n berthnasol i’r arddangosfa a’r thema a nodir uchod.

Byddai disgwyl i ymgeiswyr gyflwyno neu drefnu’r gweithgaredd a chydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar agweddau eraill megis gwerthuso ac adrodd, cyllidebu a marchnata yn unol â’r briff.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda'r canlynol:

  • Profiad o weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol
  • Profiad o ymarfer celf
  • Sgiliau trefnu da – y gallu i gyflwyno prosiectau ar amser ac i safon uchel
  • Sgiliau cyfathrebu gwych
  • Arloesedd a chreadigrwydd – y gallu i herio a gwthio ffiniau
  • Dwyieithrwydd – y gallu i weithio yn Gymraeg a Saesneg
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Partneriaid a'u casgliadau
  • Gwiriad cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a'r gallu i gadw at weithdrefnau a pholisïau diogelu'r Llyfrgell.

Cyflwynwch ddogfen gryno (1-2 tudalen), yn nodi eich syniadau, eich sgiliau a phrofiadau blaenorol, a dadansoddiad o gost cynnal y gweithgareddau.

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy ei holl bolisïau ac arferion cyflogaeth. Anelwn at sicrhau bod pob gweithiwr, darpar weithiwr neu berson sy’n gysylltiedig â’r Llyfrgell Genedlaethol yn derbyn triniaeth yr un mor ffafriol beth bynnag fo’u rhyw, hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, hil, tarddiad ethnig / cenedlaethol, lliw, anabledd, crefydd neu gredoau.



Anfonwch geisiadau ar e-bost at Jaimie Thomas jmw@llgc.org.uk



Meini Prawf Gwerthuso



Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gadw o fewn y gyllideb a osodwyd ac i gysylltu â chynrychiolwyr o Lyfrgell Genedlaethol Cymru / GISDA yn ystod cynllunio, trefnu a chyflawni'r prosiect.



Bydd pob cyflwyniad yn cael ei werthuso yn erbyn y meini prawf canlynol:

  1. Cost – yn seiliedig ar werth am arian
  2. Creadigrwydd
  3. Perthnasedd i'r briff
  4. Effaith
  5. Profiad blaenorol
Dyddiad cau: 19/01/2024