Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformatau eraill, cysylltwch ag Adnoddau Dynol ar ad@celf.cymru neu 03301 242733

 

35 awr yr wythnos

Contract cyfnod penodol tan 30 Mehefin 2022 (gyda’r posibiliad o estyniad gan ddibynnu ar arian pellach)

Cyflog: £43,604 y flwyddyn

Lleoliad: mewn un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd, Bae Colwyn neu Gaerfyrddin. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gartref.

Nodwch, rydym yn hapus i ystyried ceisiadau am rannu swydd. Byddwn hefyd yn derbyn cynigion i gyflawni’r rôl ar sail lawrydd.

Am y swydd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cydweithio â Chyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Yr Alban Greadigol a Sefydliad Ffilm Prydain i ddatblygu cynllun cerdyn hygyrchedd newydd ledled Prydain ar gyfer aelodau anabl o'r gynulleidfa. Ariennir y swydd hon gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a'i cynhelir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'n swydd newydd a chyffrous i gydarwain cam cyntaf y gwaith ymchwil a datblygu i lywio comisiynu’r cynllun ledled Prydain. Bydd yn adeiladu ar waith rhaglen Hynt a sefydlwyd eisoes gan Gyngor Celfyddydau Cymru: hynt.

Uchelgais y cynllun yw:

  • dileu'r rhwystrau a wynebir gan gynulleidfaoedd Anabl, Byddar a Niwroamrywiol wrth archebu tocynnau ar-lein ac all-lein ar gyfer digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol
  • rhoi cymorth i leoliadau a sefydliadau diwylliannol sy'n cymryd rhan i ddatblygu mannau a rhaglenni hygyrch a chynhwysol ar gyfer aelodau o'r gynulleidfa

Amdanoch chi

Byddwch yn rheolwr prosiect medrus a bydd eich gwaith yn cynnwys cael cyfrifoldeb ar y cyd dros reoli prosiectau'r cynllun newydd, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni'n brydlon ac yn ôl y gyllideb. Byddwch yn ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys pobl anabl, darparwyr systemau swyddfa docynnau, lleoliadau a chynrychiolwyr o gyrff y diwydiant.

Yn ddelfrydol, byddwch yn gallu dechrau yn y swydd cyn gynted â phosib yn amodol ar gyflawni gwiriadau cyflogaeth.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais mewn fformat Word a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad i AD@celf.cymru

Os hoffech gyflwyno cais mewn fformat arall, cysylltwch ag Adnoddau Dynol.

Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd. Rydym yn cefnogi'r holl staff i ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg.

Dyddiad cau:                         12:00pm (canol dydd), dydd Gwener 4 Mawrth 2022             

Cyfweliadau (ar-lein):          Dydd Mercher 16 Mawrth 2022   

Dyddiad dechrau:                Cyn gynted â phosib cyn diwedd mis Mawrth 2022 (yn amodol ar wiriadau cyflogaeth)

Mae ein manteision yn cynnwys oriau/patrwm gwaith hyblyg a gwyliau hael.

Rydym yn gweithredu Polisi Recriwtio Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned yng Nghymraeg neu yn Saesneg. Byddem yn croesawu'n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sy'n anabl, B/byddar a/neu niwroamrywiol a all ddod â'u profiad personol i'r gwaith.

Mae Cyngor y Celfyddydau wedi ymrwymo i’ch cefnogi wrth i chi weithio gyda ni, ac rydym yn hapus i drafod unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei hangen arnoch wrth gyflawni eich rôl. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd ar gael yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os oes angen.