Crynodeb Swydd
Ydych chi'n artist neu’n rhywun sy’n frwdfrydig am y celfyddydau sydd am helpu pobl i ailddarganfod eu hochr greadigol (a chael hwyl wrth wneud).
Yn frwdfrydig mewn ysbryd ac yn gyfforddus i weithio gyda'ch cymuned i helpu gyda rhedeg dosbarthiadau yn eich cymuned.
Disgrifiad Swydd
Ydych chi'n chwilio am amserlen hyblyg sy'n cynnwys cynnal parti peintio/cerflunio unwaith yr wythnos gyda digwyddiad ychwanegol ambell waith?
Ydych chi'n wenynen gymdeithasol sy'n caru siarad am bopeth sy'n gysylltiedig â chelfyddyd a helpu pobl gyda thechnegau paentio?
Er bod y swydd hon yn anffurfiol, mae angen rhywun dibynadwy sydd yn gyfarwydd â lefel uchel o gyfrifoldeb.
Byddwch chi'n wyneb ein cwmni ac rydym ni'n disgwyl lefel uchel o gyflawniad a chymhelliant. Mae'r mwyafrif o'n dosbarthiadau'n cael eu cynnal yn yr hwyr ac ar rai penwythnosau.
Dylai ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon fod yn breswyl yn y DU neu fod â thrwydded waith ddilys yn y DU. Nid yw’r gallu i yrru yn ofynnol ond mae’n ddymunol.
Swydd Artist i'w anfonebu ar raddfa o £20/awr
Swydd Cynorthwy-ydd Artist i'w anfonebu ar raddfa o £15/awr
Oriau'r Cytundeb Swydd: 4 - 24/awr y mis
Bydd yr oriau gwaith fel arfer yn nosweithiau yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Gofynion Swydd
- Mwynhad o beintio a/neu gerflunio a phrofiad o weithio gyda grwpiau.
- Byddwch yn arwain sesiynau celf yn annibynnol, sy'n golygu y bydd angen i chi gael symbyliad, bod yn drefnus ac wedi paratoi.
- Bydd angen i chi gael digon o le storio yn eich cartref i storio'r deunyddiau ar gyfer eich digwyddiadau (byddwn ni’n darparu'r deunyddiau).
- Yn ddymunol bydd gennych drwydded yrru lawn a char, bydd hyn yn gwneud teithio i'r digwyddiadau yn haws, ond nid yw hyn yn angenrheidiol.
- Bydd angen i chi gael sgiliau cyfathrebu clir, bod yn hyderus wrth arwain sesiynau a chroesawu gwesteion.
Dyletswyddau Swydd - Byddwch yn sefydlu, yn arwain a'n cynnal profiadau Paintvine gyda thua 20 - 25 o gyfranogwyr.
- Byddwch yn sicrhau bod gan eich gwesteion bopeth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu profiad.
- Byddwch yn arwain y sesiwn, yn dysgu'r broses a'n galluogi gwesteion i greu eu campwaith personol eu hunain.
- Bydd gennych wybodaeth am dechnegau peintio/crefftio.
- Byddwch yn sicrhau bod gwesteion yn cael noson llawn adloniant a hwyl mewn awyrgylch agored a rhydd.
- Byddwch yn gyfrifol am storio'r cyflenwadau sydd eu hangen ar gyfer eich digwyddiad a chysylltu â'r tîm perthnasol pan fydd angen mwy o gyflenwadau arnoch.
- Byddwch yn dod yn rhan o'n Cymuned Paintvine, a chael cymorth parhaus.
Sut i ymgeisio
Ymgeisiwch yma: https://wkf.ms/45Yq45h
Enw Cyswllt: Paintvine
E-bost Cyswllt: bookings@paintvine.co.uk
Trosolwg Swydd
Teitl Swydd: Tiwtoriaid Peintio / Cerameg
Oriau: Rhan amser
Math o gelf: Celf Weledol
Rôl: Dysgu
Contract: Contract
Dyddiad Cau: Llun, 31 Mawrth 2025
Lleoliad: Caerdydd