Pwrpas y Rôl
Gweithio fel rhan o'r tîm technegol ac, o dan oruchwyliaeth Rheolwr Technegol y Lleoliad, darparu gwasanaeth o'r safon uchaf bosibl i bob cynhyrchiad sy'n ymweld.
Oriau: 25awr yr wythnos
Gradd: TC04
Cyflog cychwynnol: £22,415 (pro-rata) y flwyddyn
Tîm: Cynhyrchu
Dyddiad cau: Llun 27 Hydref 2023, 5pm
Bydd y gwaith o lunio rhestr fer o'r ceisiadau a’r cyfweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal tra bydd yr hysbyseb yn fyw; bydd yr hysbyseb yn cau ar ôl dod o hyd i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.
Cyffredinol
- Darparu cefnogaeth dechnegol i holl ddefnyddwyr y lleoliad.
- Darparu gwasanaeth technegol yn ystod perfformiadau yn ôl yr angen.
- Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â symud set ac offer i mewn, eu ffitio yn eu lle, eu tynnu i lawr a’u symud allan gan gynnwys cydosod, rigio, addasu a defnyddio golygfeydd, props, offer rigio a chodi, offer goleuo a sain ac effeithiau arbennig.
- Paratoi cynlluniau ac amserlenni, yn ôl y gofyn, mewn perthynas â gosod a rigio offer technegol.
- Gosod unrhyw offer technegol sydd ei angen ar gyfer y gofod perfformio neu ddigwyddiadau.
- Lle bo angen, darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr allanol.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb am gynnal a chadw'r safle o ddydd i ddydd.
- Bod yn gyfrifol am agor a chau ardaloedd cefn llwyfan pan fo angen.
Iechyd a Diogelwch
- Sicrhau bod yr holl ofynion Iechyd a Diogelwch yn cael eu bodloni bob amser wrth weithio.
- Mynychu hyfforddiant yn ôl yr angen a chynnal ymwybyddiaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch sy'n benodol i'r mannau a'r offer a ddefnyddir.
- Gyda Rheolwr Technegol y Lleoliad, cydlynu archwiliadau diogelwch rheolaidd o'r holl offer technegol, peiriannau, gosodiadau a ffitiadau.
- Sicrhau bod yr holl offer arbenigol yn cael eu cau i lawr yn gywir ar ddiwedd pob diwrnod gwaith.
- Sicrhau bod pob perygl posibl yn cael ei wneud yn ddiogel cyn gynted â sy'n ymarferol bosibl.
Dyddiad cau: 27/10/2023