Mae Sinfonia Cymru yn chwilio am Cynorthwy-ydd Marchnata i weithio’n agos gyda Hymgynghorydd Marchnata, Heulwen Davies o gwmni Llais Cymru. Byddwch yn cefnogi ac yn cyfrannu at ein hymgyrchoedd marchnata ar draws gwahanol sianeli machnata cymdeithasol a thraddodiadol.

Swydd ran amser, 3 diwrnod yr wythnos, ar gyflog o tua £12,300 y flwyddyn (yn seiliedig ar gyflog Cyfwerth ag Amser Llawn o £20,500 y flwyddyn). Sefydliad bychan ydyn ni; rydym yn gweithredu amgylchedd gwaith hyblyg ac yn cynnig trefniant hybrid o weithio o gartref a gweithio o’n hybiau Hafan lleol yng Nghasnewydd, Bro Morgannwg ac Aberystwyth (lleoliad ein Hymgynghorydd Marchnata).

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ar 6 Mawrth.

Pecyn Recriwtio - Cymraeg

Recruitment Pack - English

Dyddiad cau: 06/03/2024