Mae Seeds yn ôl! Mi fydd Groundwork yn cefnogi 3 artist i ymchwilio a chreu dechreuadau gwaith symud newydd trwy ein rhaglen preswylio o bell.

Ar agor i artistiaid sy’n gweithio unrhyw le yng Nghymru, mae bwrsariaethau Seeds yn darparu pob artist efo cefnogaeth i ymchwilio i syniad newydd, gan egino'r gwreiddiau a'r egin petrus hynny a allai ddod yn waith perfformio yn ddiweddarach heb bwysau canlyniad penodol.

Gall artistiaid weithio lle bynnag mae nhw (gallwn gefnogi efo hurio gofod os bod angen) ac mae croeso iddyn nhw rannu canlyniadau eu ymchwil mewn UNRHYW ffordd - geiriau, fideo, darluniau… NEU mi allen nhw ddewis gwneud cais ar gyfer ein Digwyddiad Scratch ar y cyd a rhannu eu syniadau efo cynulledifa fyw.​

Bwrsari Seeds:

  • Mi fyddwch yn derbyn ffi artist o £600 (sydd yn cael ei weld fel wythnos o ffi ond gallwch rheoli eich amser fel hoffech. Rhaid i’r gwaith gael ei gwblhau a rhyw fath o adborth neu dystiolaeth yn cael eu rannu â ni erbyn Mehefin 2025)
  • Ffi o £150, ar gyfer 2 sgwrs o bell neu un hanner diwrnod byw efo mentor o’ch dewis chi
  • Cefnogaeth efo costiau hurio gofod (cytuno ar swm)
  • Darparwyd platfform ar gyfer rhannu eich ymchwil​​​​

Os hoffech chi sgwrsio ag un o'r tîm am y cyfle hwn anfonwch e-bost atom: groundworkprocardiff@gmail.com

​​Os ydych yn barod i wneud cais, cliciwch ar y botwm isod i lenwi ein ffurflen google

DYDDIAD CAU: Dydd Sul 15 Rhagfyr, 5pm
 

Dyddiad cau: 15/12/2024