Rydym yn chwilio am Yrrwr ar gyfer ein taith Giselle.
Cyflog: £551 yr wythnos
Pensiwn: Yr opsiwn i ymaelodi â Chynllun Pensiwn y Cwmni
Hawl i Wyliau: 5 niwrnod, o fewn y cyfnod dan gontract
Lleoliad: Ballet Cymru, Casnewydd, NP10 9FQ
Cyfnod: Cyfnod penodol; bydd oriau gwaith anghymdeithasol yn ofynnol. 43 awr yr wythnos ar gyfartaledd ar draws cyfnod y contract, wythnos waith chwe diwrnod.
Buddion a hawliau: Darperir llety a £31 Per Diem ar gyfer aros dros nos i ffwrdd o Gasnewydd.
Lwfans adleoli yn ôl disgresiwn o £75 yr wythnos am hyd y prosiect, ynghyd â lwfansau yn ôl disgresiwn.
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 24 Chwefror
Bydd y ceisiadau a gyflwynir yn cael eu hadolygu a bydd rhestr fer yn cael ei llunio ar ôl iddynt ddod i law.
Cynhelir y cyfweliadau yr wythnos yn dechrau 3 Mawrth yn Ballet Cymru.
Cyfnod y Contract: 9 Wythnos, 19 Mai 2025-20 Gorffennaf 2025
Swydd-ddisgrifiad
Teitl y swydd: Gyrrwr y Cwmni
Yn atebol i: Y Rheolwr Cynhyrchu
Gofynion y Swydd:
- Cymryd yr awenau o ran gyrru bws mini'r cwmni
- Monitro a rheoli bws mini'r cwmni, gan sicrhau gwaith cynnal a chadw priodol, diogelwch, a chydymffurfedd â rheoliadau'r llywodraeth
- Rheoli a chynllunio'r holl lwybrau teithio ac amseroedd gadael ar gyfer holl deithiau'r bws mini
- Rheoli, cynnal a chofnodi arian mân parod y bws mini
- Mynd i’r cyfarfodydd cynhyrchu yn ôl yr angen
- Ymgymryd ag unrhyw dasgau dirprwyedig ar gyfer y cynhyrchiad yn unol â chyfarwyddyd y cwmni
- Agwedd gadarnhaol at ddod o hyd i atebion i broblemau
- Y gallu i weithio'n fanwl gywir dan bwysau
- Y gallu i feddwl yn greadigol
- Personoliaeth frwdfrydig/egnïol
Sylwch nad yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth, ac efallai y bydd dyletswyddau eraill yn cael eu hychwanegu ati mewn ymgynghoriad â'r Rheolwr Cynhyrchu