Mae Rhwydwaith Ein Llais, mewn partneriaeth gyda Ballet Cymru, yn lansio Bwrsari Ein Llais 2025 a fydd yn cefnogi 2 artist o’r Mwyafrif Byd-eang i ddatblygu fel coreograffwyr ac i feithrin cysylltiadau yn sector y celfyddydau yng Nghymru gan arwain at gyfleoedd i deithio a chyflwyno eu gwaith. 

Dewisir enillwyr Bwrsari Ein Llais 2025 drwy broses agored, gan chwilio am y rhai hynny a chanddynt ymarfer coreograffig trylwyr a theg er budd y cyhoedd, a llai na dwy flynedd o brofiad o deithio eu gwaith. 

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cymorth am flwyddyn (Medi 2025 – Awst 2026) yn y dulliau canlynol:

  • sesiynau mentora misol gyda staff Ballet Cymru i gefnogi eu datblygiad fel coreograffwyr;
  • cefnogaeth gan Krystal S. Lowe, artist a sefydlydd Rhwydwaith Ein Llais, yn cynnwys cymorth gyda llunio ceisiadau a CV, adborth ar syniadau, dod o hyd i waith a chyfleoedd, a meithrin cysylltiadau gyda phobl yn sector y celfyddydau i gefnogi datblygiad eu gyrfa;
  • arddangosiad cyhoeddus o’u gwaith yn y digwyddiad Rhannu Ein Llais 2026 a gynhyrchir gan Krystal S. Lowe a’i gynnal yn Ballet Cymru; ynghyd â
  • bwrsari o £600 i helpu gyda chostau ac amser i ddatblygu eu ffurf ar gelfyddyd. 

Bydd Ballet Cymru hefyd yn gwneud pob ymdrech i gefnogi derbynwyr Bwrsari Ein Llais 2025 i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwaith â thâl a chyfleoedd coreograffig drwy gydol y flwyddyn, yn Ballet Cymru neu rywle arall.

Bydd ceisiadau ar gyfer Bwrsari Ein Llais 2025 yn agor ddydd Llun 31 Mawrth 2025 ac yn cau ddydd Llun 30 Mehefin 2025. 

Wrth lansio Bwrsarïau Ein Llais 2025, dywedodd Krystal S. Lowe: “Mae dawns wedi bod yn agos at fy nghalon drwy gydol fy mywyd, felly mae ffocws y bwrsari eleni ar ddatblygu coreograffwyr yn teimlo’n arbennig o gyffrous! O ’nghwmpas ym mhobman rwy’n gweld crëwyr dawns anhygoel, a thrwy gyfrwng y bwrsari eleni – mewn partneriaeth gyda Ballet Cymru – rwy’n gobeithio cefnogi crëwyr dawns yng Nghymru i’w galluogi i gyflwyno eu gwaith i’r cyhoedd. Drwy’r flwyddyn hon o ffocysu ar archwilio dawns hunan-gynhyrchu, a ffurfio cysylltiadau cadarn gyda chanolfannau ledled Cymru a thu hwnt, fy ngobaith yw y bydd Bwrsari Ein Llais 2025 yn cynhyrchu llawer mwy o ddawnsio fel bod modd i bawb ei weld!” 

Dywedodd Darius James, Cyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru: "Mae Ballet Cymru yn gyffrous i fod yn bartner gyda Rhwydwaith Ein Llais ac i fod yn cyfuno ein sgiliau a’n profiadau a rennir i ddatblygu cyfleoedd i goreograffwyr yng Nghymru ymhellach. Byddwn yn cynnig mentoriaeth, amser stiwdio, cyllid a chyfleoedd cyflogedig i gefnogi dau goreograffydd i archwilio syniadau a chreu gwaith newydd, ac edrychwn ymlaen at rannu hyn gyda’r sector ehangach."
 

Dyddiad cau: 30/06/2025