Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen am y nesaf yn ein digwyddiadau Rhwydwaith Celfyddydau Cymunedol am ddim ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, wrth i ni archwilio manteision a heriau defnyddio'r celfyddydau gyda grwpiau bregus.
Bydd Steve Berry, Swyddog Rhianta Corfforaethol a Chyfranogiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn ein cyflwyno i gyfleoedd i weithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, y cerddorion clarinet clasurol Aeolus Duo a fydd yn rhannu eu gwaith gyda phlant ag anghenion ychwanegol ac oedolion sy'n byw gyda dementia fel rhan o'r elusen Live Music Now, a Tracy a Laura sy'n rhedeg Côr Oasis One World Caerdydd ar gyfer ffoaduriaid.
Bydd detholiad o ddiodydd poeth a chacennau hefyd ar gael.
Dydd Mercher 21 Chwefror 2024
2-4pm
Tŷ Bryngarw, Parc Gwledig Bryngarw, Brynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8UU
I archebu eich lle am ddim, anfonwch e-bost at claire.cressey@awen-wales.com a nodwch unrhyw ofynion mynediad neu ddietegol.
Gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr