Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gobeithio recriwtio Rheolwr Prosiect Celfyddydau Awyr Agored ar gontract llawrydd tymor byr i'n cefnogi i ddarparu amrywiaeth o berfformiadau a digwyddiadau celfyddydol awyr agored ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ffi: £2,500 am hyd at 12 diwrnod o waith rhwng Mai a Rhagfyr (hyblyg)
Gan adrodd i'n Rheolwr Lles Creadigol, byddwch yn cysylltu ag artistiaid, adrannau trwyddedu'r cyngor, tîm marchnata Awen, staff a gwirfoddolwyr. Byddwch yn cefnogi gwaith yng nghanol trefi, pentrefi a pharciau yn unol â’r cyfarwyddyd.
Bydd prosiectau'n croesi pob ffurf ar gelf ac yn amrywio o berfformiadau cyfranogol a phersonol i ddigwyddiadau ar raddfa fawr. Bydd y digwyddiadau yn aml yn rhad ac am ddim ac yn gallu denu cynulleidfaoedd amrywiol o bob maint, yn gynrychioliadol o'r demograffig lleol. Byddwch yn gyfrifol am rywfaint o’r gwaith rheoli prosiect cyn y digwyddiad yn ogystal ag yn arwain neu gynorthwyo i gyflawni mewn amser real yn ymarferol.
Mae sgiliau rheoli prosiect rhagorol a phrofiad o gyflawni digwyddiadau celfyddydau awyr agored yn hanfodol. Rydym yn annog ceisiadau gan bobl b/Byddar, anabl, niwroamrywiol, cwiar/traws neu'n rhan o'r mwyafrif byd-eang.
Gwnewch gais drwy e-bost/llythyr eglurhaol, neu fideo byr os yw'n well gennych, yn amlinellu eich profiad. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad neu gymorth.
Anfonwch eich cais at Nicola Edwards, Rheolwr Lles Creadigol, nicola.edwards@awen-wales.com, erbyn 20 Ebrill 2024.
Ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.