Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â’n tîm yn Sinfonia Cymru. Fel Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, byddwch yn chwarae rôl allweddol yng nghenhadaeth Sinfonia Cymru i ddarparu profiadau cerddoriaeth glasurol eithriadol a hygyrch i bobl ledled Cymru. Trwy ddatblygu a gweithredu ymgyrchoedd marchnata arloesol, cydweithredu gyda chanolfannau partner, ac arwain y dasg o greu deunyddiau marchnata deniadol, byddwch yn codi proffil y gerddorfa ac yn denu cynulleidfaoedd amrywiol.
Cyflog ac amodau
Swydd ran-amser, 3 diwrnod yr wythnos, yw hon ar gyflog o £19,200 y flwyddyn (yn seiliedig ar gyflog cyfwerth ag Amser Llawn o £32,000 y flwyddyn). Rydym yn sefydliad bychan ac yn gweithredu amgylchedd gwaith hyblyg, felly gellir gweithio’r 3 diwrnod mewn modd hyblyg drwy gydol yr wythnos, ac eithrio ar adegau allweddol megis cyfarfodydd o’r tîm (a gynhelir fel arfer am 9:30 bob bore) a chyngherddau. Byddem yn dymuno i’r oriau gael eu gweithio dros o leiaf 4 diwrnod o’r wythnos. Rydym yn cynnig trefniant hyblyg o weithio o gartref a gweithio o’n hybiau Hafan lleol yng Nghasnewydd, Bro Morgannwg ac Aberystwyth (lleoliad ein Hymgynghorydd Marchnata). Bydd yr hawl i wyliau’n seiliedig ar nifer cyfwerth ag amser llawn o 20 diwrnod ynghyd â gwyliau banc (8). Yn seiliedig ar yr amserlen ar gyfer ymarferion a pherfformiadau, mae’r rôl yn gofyn am weithio’n rheolaidd ar y penwythnos a’r tu allan i oriau swyddfa, a threulio rhai cyfnodau byr oddi cartref. Nid yw’r cwmni’n darparu tâl goramser, ond cynigir amser rhydd i wneud iawn am yr amser a weithir.
Cyflwyno cais
Dylid anfon ceisiadau drwy ebost at caroline@sinfonia.cymru. Gofynnir i chi gynnwys CV, ynghyd â chais ysgrifenedig o ddim mwy na dwy dudalen ychwanegol yn datgan eich diddordeb yn y rôl a beth, yn eich barn chi, y gallech ei gyfrannu i Sinfonia Cymru. Dylid cyflwyno’r cais ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg. Dylid darparu’r cais llawn mewn un ffeil PDF. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ar 22 Mai 2025. Byddem yn dymuno i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â phosib.