Dyddiad cau: Dydd Llun 4 Tachwedd, 5pm
Cyfweliadau: Dydd Llun 11 Tachwedd
Yn adrodd i: Rheolwr y Caffi Bar
Oriau: Yr wythnos waith yw 40 awr (unrhyw 5 diwrnod o 7) gan gynnwys: sifftiau cynnar, sifftiau gyda’r nos, penwythnosau a Gwyliau Banc fel rhan o’r swydd
Cyflog: £27,000 y flwyddyn
Pwrpas y rôl
Dirprwyo ar gyfer Rheolwr y Caffi Bar yn eu habsenoldeb. Gweithredu gweithdrefnau llif gwaith gan Reolwr y Caffi Bar, gan sicrhau bod y Caffi Bar yn rhedeg yn llyfn a bod pob tasg yn cael ei chwblhau. Cefnogi’r Rheolwr drwy ofalu am dasgau gweinyddol o dydd i ddydd, goruchwylio hyfforddiant a chynnal y safonau ar gyfer tîm y Caffi Bar. Arwain ar gyfathrebu gyda’r tîm, gan sicrhau bod gwybodaeth am y sifft yn cael ei rhannu a’i gweithredu.
Rydyn ni’n ganolfan i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Rydyn ni’n croesawu yn benodol bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, neu sy’n F/fyddar neu’n anabl, gan eu bod wedi’u tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.
I wneud cais am y swydd, e-bostiwch eich CV i apply@chapter.org a llenwch ffurflen Cyfle Cyfartal cyn y dyddiad cau.