Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn profiadol a brwdfrydig arwain a goruchwylio rheolaeth weithredol esmwyth Y Muni, un o bedwar lleoliad ym mhortffolio Awen yn ne Cymru.

Rydym yn chwilio am rywun brwdfrydig a blaengar sydd â diddordeb mewn diwylliant cyfoes, theatr a'r celfyddydau ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu profiadau o ansawdd uchel ar gyfer artistiaid, cynulleidfaoedd, llogwyr, rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid sy'n ymweld.

Byddai eich rôl yn cynnwys rhaglennu a rheoli cyfleusterau, ochr yn ochr â rheoli bwyd a diod, cyllidebau, iechyd a diogelwch a staff/gwirfoddolwyr.

 

Dyddiad cau: 02/06/2024