Bydd Rheolwr Cronfa Media Cymru yn goruchwylio'r gwaith o gynllunio, cyflwyno a gweinyddu cystadlaethau ariannu Media Cymru ar gyfer busnesau, gan reoli perthnasau â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol megis cyllidwyr, partneriaid consortiwm (e.e. BBC Cymru Wales, S4C, Ffilm Cymru) a busnesau o bob rhan o'r sector cyfryngau yng Nghymru. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn ddatryswyr problemau brwdfrydig a threfnus iawn gyda sgiliau rhagorol mewn rheoli prosiectau, rheoli ariannol, rheoli partneriaeth, arweinyddiaeth, rheoli llinell, cydymffurfio, cyfathrebu a rhwydweithio. Bydd ganddynt brofiad o reoli perthnasoedd cymhleth rhwng gwahanol fusnesau creadigol, asiantaethau sectoraidd, cyllidwyr a phrifysgolion.



Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol hyd at 31 Rhagfyr 2026.



Cyflog: £49,794 – £54,395 y flwyddyn (Gradd 7)

 

Dyddiad cau: 08/01/2024