Fel Prif Weithredwr Dros Dro Hijinx, byddwch yn arwain y blaen o ran hyrwyddo ein gweledigaeth a’n cenhadaeth.

Bydd eich arweinyddiaeth yn llywio’r sefydliad tuag at gyrraedd cerrig milltir rhyfeddol o ran cynhwysiant, cynrychiolaeth, a chyflogi proffesiynol ar weithwyr proffesiynol creadigol ag anabledd dysgu a/neu Awtistig.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Hijinx wedi bod ar daith ryfeddol o dwf a llwyddiant. Wedi parhau i greu a dysgu trwy’r pandemig, mae Hijinx wedi ymddangos ar ôl Covid fel sefydliad sydd hyd yn oed yn fwy blaengar ac ymatebol, gan adeiladu ar ein llwyddiannau i ffynnu.

Gyda’n Prif Weithredwr presennol, Sarah Horner, yn symud ymlaen yn ei gyrfa ym mis Mai, mae gennym angen dod â Phrif Weithredwr profiadol i mewn ar unwaith ar sail dros dro i sicrhau parhad a sefydlogrwydd yn ystod y cyfnod hwn o newid, tra byddwn yn cynnal cyfnod pwysig o ystyried ein hanghenion tymor hwy a’n ffocws yn y swydd allweddol hon.

Y Prif Weithredwr Dros Dro sy’n gyfrifol am roi arweiniad strategol a gweithredol gyda phwyslais penodol ar reolaeth ariannol a phersonél, creu incwm a holl ymrwymiadau cyfreithiol a chontractaidd y cwmni.

 

Fel Prif Weithredwr Dros Dro byddwch yn arwain ar wireddu ein cynllun busnes strategol trwy bedair blaenoriaeth strategol:

  • Cynyddu mynediad at greadigrwydd, hyfforddiant, gwaith a lleoedd
  • Cynyddu ein gallu i gyrraedd a chryfhau ein heffaith, i sicrhau bod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn gallu ymgysylltu â’r celfyddydau, a chyflawni eu potensial
  • Cynyddu’r gallu i gyflawni ein gwaith a’n potensial creadigol
  • Sicrhau bod ein gwaith yn gynaliadwy, yn gefnogol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a’n planed

Bydd y Prif Weithredwr Dros Dro yn cael cefnogaeth lawn ein bwrdd ymddiriedolwyr gweithredol a medrus, yn benodol yr is-bwyllgorau Pobl a Chyllid, sy’n gweithio’n glos gyda’r tîm gweithredol uwch i arwain ein strategaethau ariannol, cynhwysiant a phobl.

Fel Prif Weithredwr Dros Dro byddwch yn:

  • Arwain ac ysbrydoli ein tîm ymroddedig i gyflawni nodau sefydliadol, gan gynnwys cynyddu cynrychiolaeth ar lwyfan a sgrin i weithwyr creadigol proffesiynol ag anabledd dysgu a/neu awtistig, a thrawsnewid y sector i weithio’n fwy cynhwysol.
  • Sicrhau sefydlogrwydd ariannol, a rhagoriaeth weithredol ar draws pob agwedd o’r sefydliad.
  • Meithrin a chynnal partneriaethau gyda rhanddeiliaid, cyllidwyr, a’r gymuned gelfyddydol ehangach i hyrwyddo ac ehangu effaith Hijinx.
  • Hyrwyddo llesiant ein staff, gan sicrhau gweithle sy’n rhoi gwerth ar wahaniaethau unigol, sy’n cefnogi twf proffesiynol, ac yn ymrwymo i gyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth.

Mae’n bwysig i’r Prif Weithredwr Dros Dro allu arwain yn hyderus trwy’r cyfnod hwn o newid ac i roi sicrwydd ac arweiniad pwysig i’r tîm uwch ac ehangach.

Rydym yn chwilio am sgiliau penodol mewn arwain pobl, cyllid a newid a bod yn gyfarwydd â’r celfyddydau a/neu’r trydydd sector.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol:

  • Brofiad arwain profedig yn y sectorau celfyddydau, diwylliant neu nid er elw, gydag angerdd dros gynhwysiant ac effaith cymdeithasol.
  • Dull llawn gweledigaeth o arwain sefydliadau tuag at dwf a blaengaredd.
  • Gallu ariannol cryf a sgiliau cynllunio strategol.
  • Gallu rhagorol i gyfathrebu a llunio perthynas, gyda thalent ar gyfer meithrin cydweithrediad a phartneriaethau.

Ymrwymiad dwfn i gynhwysiant, amrywiaeth a llesiant staff ac aelodau o’r gymuned.

Telerau:

Teitl Swydd: Prif Weithredwr Dros Dro 

Contract: Swydd dros dro am 6 mis i gychwyn 

Oriau: Llawn amser (37.5 awr yr wythnos) gyda rhywfaint o ymrwymiadau min nos a phenwythnos y bydd amser o’r gwaith yn cael ei roi yn eu lle. 

Yn gweithio o: I weithio o Gaerdydd gan deithio trwy Gymru i gefnogi ein Canolfannau ac ymhellach yn achlysurol. Hyblyg/hybrid ar gael gydag isafswm o ddau ddiwrnod yn y swyddfa bob wythnos. 

Cyflog / Buddion: £60,000 y flwyddyn (pro rata ar gyfer y cyfnod penodol 6 mis) 

Gwyliau: 25 diwrnod y flwyddyn a gwyliau banc statudol (pro rata ar gyfer rhan-amser) 

Dyddiad Dechrau: Yn ddelfrydol dechrau Mai 2024  

Darganfyddwch fwy ar wefan Hijinx.

Dyddiad cau: 18/04/2024