Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y RôlPrentis Technegol(Cytundeb Tymor Penodol - 12 Mis)

Cyflog:£11,648 (35 awr yr wythnos)

Dyddiad Cau: Wythnos yn dechrau 10 Gorffennaf 2024

Dyddiad Cyfweld: Wythnos yn dechrau 12 Awst

Dyddiad Cychwyn:30 Medi 2024 (am Wythnos Sefydlu)

Amdanom ni/Ein Hadran:

Fel un o leoliadau celfyddydol mwyaf eiconig a mwyaf adnabyddus y DU, mae rhan o’n llwyddiant yn deillio o’n hymrwymiad i roi cyfle i bobl ddatblygu a ffynnu.

Rydym yn gwneud hyn drwy gefnogi talent o Gymru sy’n dod i’r amlwg, gyda phrofiadau dysgu sy’n newid bywydau, gweithdai ymarferol, a phrentisiaethau technegol. Mae gennym brentisiaid wedi’u lleoli yma yn y Ganolfan, ond hefyd gyda sefydliadau partner ledled Cymru, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Brycheiniog, Theatr Clwyd a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Mae ein prentisiaid presennol wedi cwblhau lleoliadau yn ddiweddar gyda chynyrchiadau teithiol fel Disney’s Aladdin, Matthew Bourne’s Edward Scissorhands, a The Wizard of Oz ymhlith eraill. Maent hefyd wedi cefnogi nifer o sioeau a gynhyrchwyd gan y Ganolfan fel Branwen: Dadeni, The First XXXMas: A Very Naughty-tivity and Nye, cydweithrediad Theatr Genedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun prentisiaeth ewch i https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/prentisiaethau-technegol.

 

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

Mae technegwyr theatr cefn llwyfan yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflwyno perfformiadau byw, gan sicrhau bod pob cynhyrchiad yn cael ei gynhyrchu i'r safon uchaf posibl. Prif ddiben y rôl hon yw datblygu sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy unigolion sy’n cychwyn eu gyrfaoedd technegol - mewn meysydd sy'n benodol i grefft y llwyfan, goleuo a sain ar gyfer adloniant byw.

O ddydd i ddydd byddwch yn adrodd i'r Rheolwr Llwyfan Technegol neu'r Prif Drydanwr, a fydd yn eich integreiddio i'r adran dechnegol ehangach gan eich gosod ar nifer o brosiectau er mwyn i chi canfod ac ymarfer eich arbenigedd. Byddwch hefyd yn adrodd i'r Cydlynydd Prentisiaid a Hyfforddiant, sy'n goruchwylio'r rhaglen prentisiaid i sicrhau bod unigolion yn cyrraedd eu targedau ymarferol ac asesu - a grëwyd gyda'u tiwtor o Goleg Caerdydd a'r Fro. Mae'r cydlynydd hefyd yn gyfrifol am eich amserlen hyfforddi broffesiynol a fydd yn cynnwys teithiau i ffwrdd o'r Ganolfan.

Dros y 12 mis, byddwch yn cwblhau Gwobr Efydd (ABTT) ynghyd â chymhwyster Profion PAT ac CRISP IOSH a byddwch yn ymgymryd â gweithdy rigio, goleuo a sain broffesiynol. Byddwch hefyd yn mynychu sioe fasnach yn y Gwanwyn/Haf. Er yn amodol ar amserlenni hyfforddi, gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl gweithio ar gynyrchiadau teithiol fel Hamilton, & Juliet and Wicked. Bydd cyfle hefyd i weithio ar ein sioe gerdd Gymraeg newydd a chyffrous, sef Pont-y-pŵl, yn seiliedig ar y radio gan Tony Burgees a ysbrydolodd y ffilm arswyd cwlt, ynghyd â sawl cynhyrchiad ar raddfa fawr gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae’n bosib y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer eich rôl.
 

Gofynion Allweddol:

Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer Wythnos Sefydlu ar wythnos yn cychwyn 30 Medi.

Mae oriau gwaith prentis yn amrywio ychydig o wythnos i wythnos gan ddibynnu ar ofynion y cynhyrchiad y maent yn gweithio arno. Mae'n rhaid i ni bwysleisio nad rôl 9-5 yw hon, felly rydym yn annog ymgeiswyr i feddwl yn galed a yw'r math hwn o waith yn addas ar eu cyfer mewn achos o wrthdaro. Rydym hefyd yn eich annog i feddwl am eich trefniadau teithio ac a yw'n ymarferol/ddichonadwy ar eich cyfer ar yr adeg hon.

Bydd eich gwerthusiad yn seiliedig ar feini prawf gymharol gyfnewidiol. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o'ch dealltwriaeth o theatr dechnegol cefn llwyfan a pha feysydd penodol sydd o ddiddordeb i chi a pham. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu dysgu neu ddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gan y byddwch yn gweithio mewn sefydliad mawr gyda phobl o wahanol gefndiroedd, safbwyntiau a hunaniaeth.

Yn olaf, bydd disgwyl i chi ddangos tystiolaeth o agwedd dda a pharodrwydd tuag at weithio’n broffesiynol, dysgu sgiliau newydd, a sicrhau cynnydd yn eich gwaith cwrs.
 

Beth Sydd Ynddo I Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, ar sail pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser.
  • 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo.
  • Aelodaeth Cymorth Meddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4x cyflog blynyddol
  • Tocynnau theatr am bris gostyngol
  • Clwb cymdeithasol
  • Gwersi Cymraeg am ddim
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.

 

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Dyddiad cau: 10/07/2024