Cyflwyniad:

Potiau Cynnig (Pitch Pot) yw ein rhaglen cyllid egin newydd sydd wedi'i chynllunio i ddarparu amser, lle ac adnoddau i artistiaid archwilio syniadau celfyddydol newydd yn ystod eu camau cyntaf. 

Mae modd i'r syniadau yma arwain at gomisiynau, cynyrchiadau, neu gyd-gynyrchiadau llawn gyda'r gwasanaeth, neu barhau â'u datblygiad mewn lleoliad arall.

Mae'r rhaglen yma'n bosibl gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, ac o ganlyniad, mae cyfyngiad ar ba ffurfiau celf y mae modd i ni eu cefnogi. Yn unol â diffiniad Cyngor Celfyddydau Cymru, y rhain yw: Carnifalau, Gwyliau a Syrcasau, Crefftau, Dawns, Dramâu, Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Opera, Theatr, Celfyddydau Gweledol

Oni bai am y diffiniadau yma, does gyda ni ddim ffurf celf a ffefrir. Fodd bynnag, cofiwch ein bod ni'n gweithredu 3 lleoliad theatr ac nad oes gyda ni ofod oriel. O ganlyniad, rydyn ni mewn gwell sefyllfa i gefnogi prosiectau perfformio. 

Ar gyfer y cylch cyllid yma, rydyn ni'n awyddus i glywed gan brosiectau sydd am gael eu cynnal rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025. 

Beth rydyn ni'n ei gynnig:

  • Cyllid hyd at £5,000.
  • Ystafell ymarfer/creu yn un o'n lleoliadau (gan ddibynnu ar argaeledd).
  • Cymorth gan swyddogion y gwasanaeth er mwyn datblygu eich syniad a chyngor mewn perthynas â'r camau nesaf.
  • Cymorth o ran ymgysylltu â grwpiau cymunedol / y cyhoedd.
  • Mynediad at gymorth technegol ac offer (gan ddibynnu ar argaeledd).
  • Cyfleoedd i rannu eich gwaith yn gyhoeddus.

Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano 

  • Ymgeiswyr sy'n ystyried bod eu harfer a'u gwaith yn unol â'n Cenhadaeth, Gweledigaeth a Gwerthoedd (Atodiad A).
  • Gweithgaredd sy'n cael ei gynnal yn Rhondda Cynon Taf ac yn dod i ben gyda gweithgaredd rhannu.
  • Bydd artistiaid a chwmnïau sydd wedi'u lleoli yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu blaenoriaethu.
  • Os nad yw grŵp o ymgeiswyr wedi'u lleoli yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n disgwyl i'w cynnig nodi cysylltiad ystyrlon â'r ardal leol ac/neu ymrwymiad i gynorthwyo â datblygiad artistiaid lleol fel rhan o'r gwaith. 
  • Gwaith sy'n cael ei gynnal rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025.

Sut i wneud cais*

I gyflwyno cais, atebwch y cwestiynau canlynol a'u hanfon mewn e-bost ynghyd â'ch CV ac enghreifftiau o'ch gwaith blaenorol i DiwydiannauCreadigol@rctcbc.gov.uk erbyn 5pm ddydd Gwener, 1 Tachwedd 2024.

Efallai bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn derbyn gwahoddiad i gyfarfod ag aelodau'r gwasanaeth a chyfeillion beirniadol. 

  1. Nodwch eich syniad (uchafswm 200 gair)
  2. Ar gyfer pwy mae hyn? (uchafswm 200 gair)
  3. Sut hoffech chi ddatblygu'r syniad a pha gostau sy'n gysylltiedig â hynny? (uchafswm 200 gair)
  4. Ble bydd yn cael ei gynnal? (uchafswm 200 gair)
  5. Beth yw'ch perthynas â Rhondda Cynon Taf? Os nad ydych chi'n drigolyn lleol neu'n methu ag arddangos cyswllt â'r ardal, pa gamau byddwch chi efallai'n eu cymryd er mwyn ymgysylltu â phobl/artistiaid lleol? (uchafswm 200 gair)

*Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen ar ffurf amgen (er enghraifft fideo/sain). Os ydych chi angen cymorth ychwanegol, bydd swyddogion Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliannol Rhondda Cynon Taf ar gael i drafod eich cais cyn ei gyflwyno. E-bostiwch: DiwydiannauCreadigol@rctcbc.gov.uk am ragor o wybodaeth. 

Atodiad A.

Cenhadaeth

• A ninnau'n wasanaeth celfyddydol Awdurdod Lleol, mae ein buddsoddiad yn y celfyddydau yn ysbrydoli a chysylltu ein cymunedau; yn sbarduno, meithrin a dathlu talent creadigol cudd; yn sbarduno balchder ac ymdeimlad o berthyn i Rhondda Cynon Taf heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gweledigaeth

• Rydyn ni'n dychmygu Rhondda Cynon Taf llewyrchus lle mae gyda'r celfyddydau'r grym i wneud i ni deimlo'n hapus, hyderus a balch o'n cartref.

Gwerthoedd

•Creadigedd (meithrin talent creadigol; galluogi sbarduno creadigol; ysbrydoli mynegiant creadigol; darganfod talent gudd; darparu profiadau newydd; heriau; cymryd risgiau)

•Ymdeimlad o berthyn (dathlu lle; diwygio persbectif; gwrando a rhannu lleisiau; cydnabod lle Rhondda Cynon Taf heddiw; datblygu balchder mewn lle a datblygu uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol)

•Calon (meddwl-agored; peidio barnu; hygyrch; croesawgar i bawb; gwrando; ymdeimlad o letygarwch; tegwch)

•Cysylltedd (asiant sifil a dangosydd newid; cryfhau cymunedau; cynnwys pobl; cyd-greu; cysylltu pobl; haelioni; rhwydweithiau; partneriaethau)

•Llawenydd (darparu adloniant; lle i fynegi a dianc; hwyl; dathlu)
 

Dyddiad cau: 01/11/2024